Hypnerotomachia Poliphili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
{{Pethau| fetchwikidata = ALL}}
Stori [[alegori|alegorïaidd]] o'r traddodiad [[Dyneiddiaeth|dyneiddiol]] y [[Dadeni Dysg|Dadeni]] yw '''''Hypnerotomachia Poliphili''''' ("Breuddwyd Poliphilo am frwydr cariad") a argraffwyd yn [[Fenis]] gan [[Aldus Manutius]] ym mis Rhagfyr 1499. Mae'r llyfr, sy'n enghraifft enwog o [[incwnabwlwm]] (llyfr printiedig cynnar), wedi cael ei ganmol yn aml am harddwch ei ddyluniad, a'r modd y mae'n cyfuno [[teip symudol]] gyda'i ddarluniau [[torlun pren]] niferus.
 
[[Delwedd:Hypneroto2.jpg|bawd|dim|600px|Dwy dudalen o ''Hypnerotomachia'' sy'n dangos gorymdaith orfoleddus]]
 
Mae'r testun, a ysgrifennwyd mewn ffurf anarferol o [[Eidaleg]] sy'n llawn geiriau sy'n deillio o [[Lladin|Ladin]] a [[Groeg (iaith)|Groeg]], wedi'i briodoli i awduron amrywiol. Fodd bynnag, mae llythrennau cyntaf y 38 pennod yn ffurfio acrostig "POLIAM FRATER FRANCISCVS COLVMNA PERAMAVI" ("Mae'r Brawd Francisco Colonna wedi dyfalbarhau â charu Polia"), sy'n dangos mai [[Francesco Colonna]], mynach Dominicaidd, oedd yr awdur.
Llinell 15 ⟶ 13:
 
Mae Poliphilo yn ailafael yn ei adroddiant. Mae Polia yn gwrthod ei garwriaeth, ond mae Ciwpid yn ymddangos iddi mewn gweledigaeth ac yn ei gorfodi i ddychwelyd a chusanu Poliphilo, sydd wedi llewygu wrth ei thraed. Mae ei chusan yn ei adfywio. Mae [[Gwener (duwies)|Gwener]] yn bendithio eu cariad, ac mae'r pâr yn cael eu huno o'r diwedd. A Poliphilo ar fin cymryd Polia yn ei freichiau, mae hi'n diflannu ac mae ef yn deffro.
 
[[Delwedd:Hypneroto2.jpg|bawd|dim|600px|Dwy dudalen o ''Hypnerotomachia'' sy'n dangos gorymdaith orfoleddus]]
 
==Dolenni allanol==