Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 351:
Mae defnyddiwr sy ddim wedi golygu ers chwe mlynedd wedi gadael sylw eithaf amheus ar [[Defnyddiwr:Stifyn|ei dudalen]] (gwelwch y capsiwn o dan y map o Gymru). A ddylen ni ddileu'r sylw? Sdim llawer o bwynt mewn gofyn iddo fo os neith o ddim ei weld. --[[Defnyddiwr:Dani di Neudo|Dani di Neudo]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Dani di Neudo|sgwrs]]) 18:54, 30 Hydref 2020 (UTC)
:{{Ping|Dani di Neudo}} Mae defnyddwyr yn rhoi pob math o nonsens ar eu tudalennau eu hunain, a dwy i ddim yn gweld bod angen gwneud unrhyw beth yn yr achos hwn. Yn ei gyd-destun, rwy'n credu bod y map i fod yn ddoniol yn hytrach nag yn sarhaus neu'n wrth-hoyw. Gobeithio nad yw'r peth yn dy ddigio. Os felly, efallai y dylet ti godi'r mater yn Y Caffi. --[[Defnyddiwr:Craigysgafn|Craigysgafn]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Craigysgafn|sgwrs]]) 22:54, 30 Hydref 2020 (UTC)
::Diolch am yr ymateb, ond dw i ddim am ei drafod yn y caffi. Fy mwriad oedd codi'r mater efo defnyddiwr profiadol, ond mewn ffordd mor "low key" â phosib (dyma pam defnyddiais i'r teitl "rhwybeth" er mwyn osgoi tynnu gormod o sylw ato fo). Dw i'n ymwybodol mai hiwmor oedd y bwriad, ond mae'n ymddangos ei fod wedi defnyddio'r gair "hoyw" i olygu "gwael" (gan ddisgrifio pob sir heblaw Casnewydd, o le mae ef yn dod). Felly, dewis diofal/anffodus o ansoddair oedd o (gan ddefnyddiwr oedd yn ei arddegau ar y pryd), er nad yn fwriadol sarhaus yn debygol. Ond os rwyt ti'n teimlo y dylai'r sylw gael ei adael fel y mae, ni af i ddim pellach â'r mater. --[[Defnyddiwr:Dani di Neudo|Dani di Neudo]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Dani di Neudo|sgwrs]]) 19:57, 4 Tachwedd 2020 (UTC)