Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Torvalu4 (sgwrs | cyfraniadau)
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Brython-Rufeinig sy'n cael ei ddefnyddio
Llinell 34:
=== Mytholeg ac hanes traddodiadol ===
[[Delwedd:Group of Ancient Britons (4540419099).jpg|bawd|Cymry'r 20g mewn gwisg "y Brythoniaid Hynafol" ym Mhasiant Llanfair ym Muallt (1909).]]
Mae’r llywodraethwr Rhufeinig [[Macsen Wledig]] yn ganolog i’r myth lled-hanesyddol o ethnogenesis y Cymry. Fe’i ystyrir yn un o ffigurau llywodraethol yr oes FrythonaiddFrython-Rufeinig sydd yn nodi’r “llinach ddi-dor”, chwedl y bardd Eingl-Gymreig [[David Jones (bardd ac arlunydd)|David Jones]], o’r [[Ymerodraeth Rufeinig]] i’r frenhiniaeth Gymreig.<ref>[https://www.cpat.org.uk/projects/longer/histland/tanat/w_tndefe.htm www.cpat.org.uk;] adalwyd 18 Tachwedd 2020.</ref> Yn y 19g a’ra'r 20g, pan oedd hanes yr Ymerodraeth Rufeinig yn uchel ei barch, bu nifer o Gymry dysgedig yn ogystal â’uâ'u hedmygwyr yn Lloegr yn ymfalchïo yn yr hanesyddiaeth taw nid yn unig “gwir” frodorion Prydain Fawr oedd y Cymry, ond hefyd yr hwy oedd y bobl a chanddynt yr hawl gryfaf i etifeddiaeth y Rhufeiniaid. Tybir gan rai taw arwyddlun Rhufeinig oedd y ddraig a gafodd ei mabwysiadu gan y Cymry yn chwedl [[y Ddraig Goch]]. Traddodir ffug-hanes Macsen yn y chwedl Gymraeg Canol [[Breuddwyd Macsen Wledig]], ac mae’r syniad yn gryf ymhlith y Cymry hyd heddiw, er enghraifft cenir [[Dafydd Iwan]], yn ei gân wladgarol “[[Yma o Hyd (cân)|Yma o Hyd]]”, i Facsen “gadael ein gwlad yn un ddarn”.
 
[[Y Brenin Arthur]], chwedl y Cymry, oedd yr un i uno’r Brythoniaid yn y 6g. Ymddengys Arthur mewn sawl testun Cymreig, yn y Gymraeg a’r Lladin. Nid ydym yn sicr os oedd traddodiad Cymreig unigryw am Arthur, oherwydd nid oes gennym digon o dystiolaeth amdano o Gernyw a Llydaw yn yr un cyfnod. Ffigur lled-hanesyddol arall yw [[Dewi Sant|Dewi]], nawddsant Cymru. Dim ond ffynonellau diweddarach sydd yn crybwyll ei hanes, ond credir iddo fyw yn y 6g. Yn ôl traddodiad, roedd yn perthyn i frenhinoedd Ceredigion. Yn ôl stori arall, enghraifft o’r plethu chwedlau sydd yn nodi hanes traddodiadol y Cymry, nai i’r Brenin Arthur oedd Dewi Sant. Dewi yw’r unig un o’r pedwar nawddsant yng Ngwledydd Prydain ac Iwerddon a oedd yn frodor i’r genedl sydd yn ei hawlio. (Cymro neu Frython hefyd oedd [[Sant Padrig]], nawddsant Iwerddon, ac awgrymir gan rai ysgolheigion taw ef yw’r cyntaf o’r siaradwyr Cymraeg ([[Cymraeg Cynnar|Cynnar]]) sy’n wybyddus.)<ref>Gwyddoniadur Cymru, t. 681.</ref>