Diddymu caethwasiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Adda'r Yw y dudalen Diddymu Caethwasiaeth i Diddymu caethwasiaeth
Llinell 21:
Yng Nghymru, un o gefnogwyr amlycaf y mudiad Diddymu oedd y radical [[Morgan John Rhys]] (1760-1804), o [[Llanbradach|Lanbradach]], sir Forgannwg a gweinidog gyda’r [[Eglwys y Bedyddwyr|Bedyddwyr]].<ref name=":0">{{Cite book|title=Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig|url=https://www.worldcat.org/oclc/213108835|publisher=Gwasg Prifysgol Cymru|date=2008|location=Caerdydd|isbn=978-0-7083-1954-3|oclc=213108835|others=Davies, John, 1938-, Academi Gymreig.}}</ref> Cefnogai rhyddid yr unigolyn, ymgyrchai yn erbyn caethwasiaeth, a hyrwyddai rhyddid crefyddol a gwleidyddol wedi iddo gael ei ysgogi gan egwyddorion Rhyfel Annibyniaeth America a’r Chwyldro yn Ffrainc. Defnyddiodd ei allu i ysgrifennu fel cyfrwng i fynegi ei farn ar y materion yma gan gyhoeddi ei farn yn erbyn caethwasiaeth yn ‘Y Cylch-grawn Cynmraeg’, sef y cylchgrawn gwledidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ac a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn 1793.
 
Cyfieithiodd pamffled o’r Saesneg i’r Gymraeg o dan y teitl,’ Dioddefiadau Miloedd lawer o Ddynion Duon mewn Caethiwed Truenus Yn Jamaica a Lleoedd eraill’ ble wnaeth erfyn ar ei gyd-wladwyr i beidio prynu nwyddau fel siwgr a rym gan ei fod yn hyrwyddo parhad ffiaidd y caethwasiaeth. Roedd y bamffled ymhlith y rhai cyntaf yn y Gymraeg a oedd yn dadlau yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth.<ref>Cof Cenedl IX, Gol.Geraint H. Jenkins, ‘Cymro, Gelynol i bob Gorthrech’, Hywel M. Davies, tud. 71; E. Wyn James, ‘Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd’, yn ''Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid'', gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25.</ref> Cyhoeddwyd rhagor o bamffledi ganddo yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth wedi iddo ymfudo i America yn 1794 a bu un ohonynt, a gyhoeddwyd yn 1798, sef ‘Letters on Liberty and Slavery’, yn llenyddiaeth bwysig yn arfogaeth dadleuon y Diddymwyr i gael gwared ar gaethwasiaeth.<ref name=":0" />
 
Roedd [[Iolo Morganwg|Iolo Morgannwg]] (Edward Williams), un o gyfoedion radicalaidd Morgan John Rhys, yn cefnogi’r ymgyrch dros ddiddymu caethwasiaeth hefyd.