Walt Disney: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 5.77.108.252 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Craigysgafn.
Tagiau: Gwrthdroi
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 8:
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr ffilmiau Americanaidd oedd '''Walter Elias Disney''' ([[5 Rhagfyr]] [[1901]] - [[15 Rhagfyr]] [[1966]]).<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.nytimes.com/learning/general/onthisday/bday/1205.html |teitl=Walt Disney, 65, Dies on Coast; Founded an Empire on a Mouse |gwaith=[[The New York Times]] |dyddiad=16 Rhagfyr 1966 |dyddiadcyrchiad=28 Rhagfyr 2012}}</ref>
 
Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr [[20g]]. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel 'The Walt Disney Company', drosiant blynyddol o oddeutu $35 biliwn, [[The Goddess of Spring]], [[The Grasshopper and the Ants (ffilm 1934)]].
 
Gwnaeth Disney enw iddo'i hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng [[animeiddio]] ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwoca'r byd, gan gynnwys [[Mickey Mouse]]. Ei enw ef sydd ar barciau [[Disneyland]] a Walt Disney World Resort yn [[yr Unol Daleithiau]], [[Japan]], [[Ffrainc]] a [[Tsieina]]. Hoff gymeriad Disney o'r ffilmiau oedd Goofy.<ref>https://www.funfactsabout.net/interesting-disney-facts/</ref> Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar [[15 Rhagfyr]] [[1966]], rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, [[Fflorida]].