Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Israel}}}}
Prif [[maes awyr|faes awyr]] rhyngwladol [[Israel]] a'r maes awyr prysuraf yn y wlad yw '''Maes Awyr Rhyngwladol Ben Gurion''' ([[Hebraeg]]: {{lang|he|נמל התעופה הבינלאומי בן גוריון}}; [[Arabeg]]: {{lang|ar|مطار بن غوريون الدولي}}). Enwir ar ôl [[David Ben-Gurion]], prif weinidog cyntaf Israel, ac adnabyddir gan y codau '''TLV''' (IATA) ac '''LLBG''' (ICAO) yn ogystal â'r enw cyffredin '''Natbag''' (Hebraeg: {{lang|he|נתב״ג}}). Maes Awyr Ben Gurion yw'r foth ar gyfer cwmnïau hedfan [[El Al]], [[Israir Airlines]], [[Arkia]], a [[Sun D'Or]]. Yn 2016 aeth tua 18&nbsp;miliwn o deithwyr trwyddo, ac felly Ben Gurion oedd yr wythfed maes awyr ar ddeugain prysuraf yn Asia.<ref name="IAAreports">{{cite web|title=IAA Periodic Activity Reports for Ben Gurion Airport|url=http://brin.iaa.gov.il/monthlyreport|website=IAA Website|publisher=[[Israel Airports Authority]]|accessdate=15 January 2017}}</ref> Lleolir yng nghanolbarth y wlad, {{convert|19|km|abbr=on}} i dde-ddwyrain [[Tel Aviv]] a {{convert|40|km|abbr=on}} i ogledd-orllewin [[Jeriwsalem]].<ref name="AIP">{{cite web |url=http://en.caa.gov.il/index.php?option=com_docman&task=doc_download&gid=1359&Itemid= |title=AD 2.5 TEL-AVIV / BEN-GURION&nbsp;– LLBG |date= |accessdate=2014-07-18 |archive-date=2013-10-12 |archive-url=https://web.archive.org/web/20131012085055/http://en.caa.gov.il/index.php?option=com_docman&task=doc_download&gid=1359&Itemid= |url-status=dead }}</ref> Gweithredir Maes Awyr Ben Gurion gan Awdurdod Meysydd Awyr Israel, corfforaeth a berchenogir gan y llywodraeth sy'n rheoli'r holl feysydd awyr cyhoeddus a chroesfannau'r ffin yn Israel.
 
Maes Awyr Ben Gurion yw un o'r pum maes awyr gorau yn [[y Dwyrain Canol]] oherwydd profiad ei deithwyr a'i ddiogelwch uchel.<ref>{{cite web|url=http://www.aci.aero/Airport-Service-Quality/ASQ-Awards/2013-Winners/Best-Airport-By-Region/Middle-East|title=ASQ Awards|publisher=|accessdate=3 June 2015}}</ref> Yn ogystal â gwarchodwyr y maes awyr mewn gwisg ac mewn dillad plaen, amddiffynnir Ben Gurion gan luoedd diogelwch cenedlaethol gan gynnwys Heddlu Israel, milwyr yr [[IDF]], ac Heddlu'r Goror. Bu'r maes awyr yn darged i sawl [[terfysgaeth|ymosodiad terfysgol]], ond nid yw'r un ymgais i herwgipio awyren ar ei chychwyn o Ben Gurion wedi llwyddo.