Sul y Tadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Doedd dim angen cymaint o fanylion am UDA; mae ychydig mwy am y DU bellach.
Rescuing 2 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
Llinell 2:
Dathliad sy'n anrhydeddu tadau ac yn dathlu tadolaeth, perthynasau tadol a dylanwad tadau mewn cymdeithas yw '''Sul y Tadau'''. Yng ngwledydd Catholig Ewrop, mae wedi cael ei ddathlu ar [[19 Mawrth]] (Dydd Gŵyl Joseff) ers yr [[Yr Oesoedd Canol|Oesoedd Canol]]. Y Sbaenwyr a'r Portiwgeaid gyflwynodd y dathliad i [[America Ladin]], lle mae 19 Mawrth yn dal i gael ei ddefnyddio ar ei gyfer, er bod llawer o wledydd yn Ewrop ac America bellach wedi mabwysiadu'r dyddiad sy'n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer yn yr Unol Daleithiau, sef trydydd dydd Sul Mehefin. Caiff ei ddathlu ar wahanol ddyddiau mewn sawl rhan o'r byd, gan fwyaf ym misoedd Mawrth, Ebrill a Mehefin. Mae'n cyd-fynd â dathliadau tebyg sy'n anrhydeddu aelodau'r teulu, fel [[Sul y Mamau|Sul y Mamau, Diwrnod y Brodyr a Chwiorydd]] a Diwrnod y Teidiau a Neiniau.
 
Ni chafodd Sul y Tadau ei ddathlu yn yr Unol Daleithiau, y tu allan i draddodiadau Catholig, tan yr 20g. Cafodd ei sefydlu gan Sonora Smart Dodd yn ei ffurf fodern.<ref>{{Cite web|url=http://www.spokaneknoxpc.org/documents/SonoraSmartDodd_Biography.pdf|title=Sonora Louise Smart Dodd|last=|first=|date=19 Chwefror 2010|website=|publisher=Spokane Regional Convention & Visitor Bureau|access-date=22 Awst 2016|archive-date=2016-08-12|archive-url=https://web.archive.org/web/20160812053653/http://spokaneknoxpc.org/documents/SonoraSmartDodd_Biography.pdf|url-status=dead}}</ref> Ar 19 Mehefin 1910 cynhaliodd ddathliad Sul y Tadau yn yr YMCA yn [[Spokane, Washington]]. Roedd ei thad, William Jackson Smart yn gyn-filwr [[Rhyfel Cartref America]] ac wedi magu chwech o blant fel yn rhiant sengl. Bu hefyd yn aelod o Hen Eglwys Bresbyteraidd y Canmlwyddiant (bellach yn Eglwys Bresbyteraidd Knox), lle cynigiwyd y syniad gyntaf. Ar ôl clywed [[pregeth]] ar Sul y Mamau yn 1909, dywedodd wrth ei gweinidog y dylai tadau gael gwyliau tebyg i'w hanrhydeddu. Er iddi awgrymu 5 Mehefin i ddechrau, sef pen-blwydd ei thad, ni chafodd y gweinidogion ddigon o amser i baratoi eu pregethau, a gohiriwyd y dathliad tan y trydydd dydd Sul ym mis Mehefin. Derbyniodd nifer o glerigwyr lleol y syniad, ac ar 19 Mehefin 1910, cyflwynwyd pregethau yn anrhydeddu tadau ledled y ddinas.<ref name="Butler">{{Cite web|url=http://www.umc.org/news-and-media/fathers-day-has-methodist-ties|title=Father's Day has Methodist ties|last=Butler|first=Joey|publisher=The United Methodist Church|access-date=15 Mehefin 2014|quote=In 1909 in Spokane, Wash., Sonora Smart Dodd listened to a Mother's Day sermon at Central Methodist Episcopal Church. Dodd's own mother had died 11 years earlier, and her father had raised their six children alone. Dodd felt moved to honor her father, and fathers everywhere, with a special day, as well. She proposed her idea to local religious leaders, and it gained wide acceptance. June 19, 1910, was designated as the first Father's Day, and sermons honoring fathers were preached throughout the city.|archive-date=2018-06-10|archive-url=https://web.archive.org/web/20180610205023/http://www.umc.org/news-and-media/fathers-day-has-methodist-ties|url-status=dead}}</ref> Serch hynny, yn 1972 y cafodd y diwrnod ei wneud yn wyliau cenedlaethol swyddogol yn yr Unol Daleithiau.
 
Yn y Deyrnas Unedig, nid oes gan Sul y Tadau statws swyddogol ond mae'n cael ei ddathlu ar y trydydd dydd Sul o Fehefin. Yn wahanol i [[Sul y Mamau]], sydd â thraddodiad hynafol fel gŵyl eglwysig, mae Sul y Tadau yn ddathliad modern, yn tarddu rywbryd ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]].