Crwst: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B s
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: ac heb → a heb , ac hefyd → a hefyd using AWB
 
Llinell 4:
Bwyd [[pobi|pob]] a wneir o [[toes|does]] yw '''crwst'''. Gwneir y toes o [[blawd|flawd]], [[halen]], cymhareb uchel o [[braster|fraster]], ac ychydig o hylif. Gall hefyd gynnwys [[siwgr]] a chynhwysion eraill i flasu.<ref name=EB>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/446138/pastry |teitl=pastry (food) |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Y prif fathau o does a ddefnyddir i wneud crystiau yw crwst brau, crwst pwff, crwst haenog, a chrwst ''choux''. Mae gwasgedd [[anwedd dŵr]] yn chwyddo'r swigoed aer yn y toes tra'n pobi, a gall yr [[ager]] a gynhyrchir wrth i'r braster gyrraedd ei doddbwynt hefydd [[lefeinio]]'r crwst.<ref>{{dyf Britannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/49594/baking/50212/Sheeting-and-cutting |teitl=baking: steam leavening |dyddiadcyrchiad=5 Mehefin 2015 }}</ref> Lefeinir y mwyafrif o grystiau gan ager yn unig, ond ceir crystiau bras a lefeinir gyda [[burum]] megis [[crwst Danaidd|crystiau Danaidd]] a ''[[brioche]]''.<ref name=EB/><ref name=Davidson/>
 
[[Melysfwyd]]ydd yw'r mwyafrif o grystiau, ond ceir rhai crystiau sawrus megis ''[[vol-au-vent]]s'', ''[[bouchée]]s'', a [[rhôl selsig|rholiau selsig]]. Bwyteir crystiau melys am [[pwdin|bwdin]] aca hefyd am damaid gyda [[coffi|choffi]] yng nghanol y bore neu am [[te'r prynhawn|de'r prynhawn]].<ref name=Davidson/> Defnyddir crwst ar ffurf dalennau tenau i leinio padellau i wneud [[pei]]s a [[tarten|thartenni]]. Paratoir cig a [[pate]]s ''en croûte'' drwy eu hamlapio mewn crwst. Gellir hefyd siapio dalennau trwchus o grwst, a'u llenwi gyda [[sglein]] neu [[eisin]].<ref name=EB/>
 
== Geirdarddiad ==
Llinell 37:
=== Crwst pei ===
[[Delwedd:Flaky Vegan Pie Crust (4277580052).jpg|bawd|Crwst pei [[figan]]aidd.]]
Crwst pei yw'r prif fath o grwst croyw (hynny yw, heb ei lefeinio) a wneir yn y popty modern. Gan amlaf, cymysgedd syml o flawd, ychydig o ddŵr, braster (30–40 y cant o'r toes), a [[halen]] (1–2 y cant) yw crwst pei. Cymysgir yn fuan i geisio atal y toes rhag troi'n rhy ystwyth, sy'n crebachu'r ac yn caledu'r crwst. I wneud y crwst yn haenog, ymdrechir i gadw'r braster mewn rhannau bychain aca heb ei daenu'n llwyr trwy'r toes, ac er y diben hwn dodir y toes yn yr oergell cyn ychwanegu'r braster. Bloneg yw'r braster mwyaf boblogaidd i gynhyrchu crwst pei haenog a chanddo flas boddhaol. Nid yw olewon yn addas gan nad ydynt yn solet wrth gymysgu'r toes. Gellir ychwanegu [[llaeth]] neu ychydig o [[siwgr india corn]] i frownio'r crwst yn well ac i flasu. Yn y cartref ychwanegir ychydig o [[powdwr pobi|bowdwr pobi]] neu [[soda pobi]] i wneud y crwst yn freuach, ond yr anfantais yw bydd y crwst yn llai haenog.<ref name=EB2/>
 
=== Crwst dŵr poeth ===