Haprwydd (ystadegol): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
anrhefn -> anhrefn
→‎top: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Josef Wenzel Süss Jungen beim Würfelspiel.jpg|bawd|Paentiad gan Joseph Wenzel Süss o ddau fachgen yn chwarae deis.]]
[[Delwedd:US Navy 090620-N-2798F-033 Sailors assigned to the aircraft carrier USS Harry S. Truman (CVN 75) and Carrier Air Wing (CVW) 3 compete in a Texas Hold 'Em Poker tournament aboard Harry S. Truman.jpg|bawd|Gêm gystadleuol o [[pocer]] 'Texas Hold 'Em ' yn 2009.]]
Dywedir bod [[dilyniant]] o [[rhif|rifau]] '''"ar hap"''' pan nad yw'n cynnwys unrhyw batrwm neu ailadrodd y gellir eu hadnabod; mae dilyniannau fel canlyniadau rhowlio [[deis]] neu [[digid|ddigidau]] <big>[[pi|π]]</big> yn dangos '''haprwydd ystadegol'''.<ref>[http://news.uns.purdue.edu/UNS/html4ever/2005/050426.Fischbach.pi.html ''Pi seems a good random number generator – but not always the best''], Chad Boutin, Prifysgol Purdue]</ref> Nid yw haprwydd<ref>[http://termau.cymru/#haprwydd y Porth Termau Cenedlaethol; adalwyd 19 Medi 2018.]</ref> ystadegol o reidrwydd yn awgrymu "gwir" haprwydd. Mae ffug-haprwydd (''Pseudorandomness'') yn ddigonol ar gyfer nifer o feysydd fel [[ystadegaeth]], a dyma pam y caiff ei alw'n "haprwydd ystadegol". Caiff ei gysylltu'n agos gyda [[tebygolrwydd|thebygolrwydd]].
 
Mae 'haprwydd global' a 'haprwydd lleol' yn wahanol. Mae'r rhan fwyaf o ddiffiniadau athronyddol o haprwydd yn global oherwydd eu bod edrych ar y rhediad cyfan o rifau, a bod y dilyniant eang yn ddilyniant ar hap, hyd yn oed os cyfyd patrwm lleol oddi mewn i'r dilyniant eang. Mae haprwydd lleol yn cyfeirio at y syniad y gall fod lleiafswm o ddilyniannau ar hap lle gellir brasamcanu'r 'dosbarthu ar hap' (''random distributions''). Yr hiraf yw'r dilyniant o rifau (dyweder 100,000 o ddigidau) yna'r lleiaf tebygol yw i'r dilyniant hwnnw gynnwys 'haprwydd lleol' gwirioneddol.