Ffrwydrad Bishopsgate: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B gair ar goll
Llinell 2:
Ymosodiad terfysgol gan [[Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon|Fyddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon]] (PIRA) ar [[Dinas Llundain|Ddinas Llundain]] oedd '''ffrwydrad Bishopsgate''' ar 24 Ebrill 1993. Ffrwydrodd y bom mewn lori yn Bishopsgate, un o brif ffyrdd trwodd y Ddinas. Bu farw un ac anafwyd 44 o bobl, ac achoswyd £350&nbsp;miliwn o ddifrod.<ref name=Davy/>
 
Cafodd y bom, a oedd yn cynnwys un dunnell o ffrwydron, ei osod mewn [[lori godi]] a gafodd ei chipio gan y PIRA a'i pharcio tu allan i adeilad [[HSBC]] yn 99 Bishopsgate, ger cyffordd Bishopsgate a Wormwood Street. Un awr cyn i'r bom ffrwydro, cafodd naw rhybudd ei ffonio i'r heddlu o giosg ffôn yn Forkhill, [[Swydd Armagh]], a dechreuwyd symud pobl o'r ardal.<ref>Toby Harnden, '''Bandit Country': The IRA and South Armagh'' (Llundain: Hodder & Stoughton, 1999), tt. 337–8.</ref> Ffrwydrodd y bom, a wnaed o [[amoniwm nitrad]] a thanwydd, am 10:27 o'r gloch y bore. Lladdwyd ffotograffydd i'r ''[[News of the World]]'', Edward Henty, a anwybyddodd y gorchymyn i adael yr ardal.<ref>{{eicon en}} Andrew Gliniecki, "[https://www.independent.co.uk/news/uk/the-bishopsgate-bomb-toll-of-injured-rises-to-51-1457460.html The Bishopsgate Bomb: Toll of injured rises to 51]", ''[[The Independent]]'' (25 Ebrill 1993). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.</ref> Difrodwyd adeiladau o fewn 500 o lathenni, gan gynnwys Tŵr NatWest a [[gorsaf reilffordd Liverpool Street Llundain|gorsaf reilffordd Liverpool Street]], a dinistriwyd Eglwys y Santes Ethelburga yn llwyr.<ref name=Davy/>
 
Mewn ymateb i'r ymosodiad hwn, a ffrwydrad arall yn St Mary Axe yn Ebrill 1992, adeiladwyd system diogelwch o'r enw "cylch dur" (yn swyddogol y Parth Traffig ac Amgylcheddol) o amgylch Dinas Llundain.<ref name=Davy>{{eicon en}} Jo Davy, "[https://www.citymatters.london/remembering-bishopsgate-bomb-25-years/ The Bishopsgate bomb: 25 years on]", ''City Matters'' (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.</ref> Newidiwyd y mwyafrif o ffyrdd y Ddinas yn allanfeydd yn unig, a rhoddwyd heddweision ar bob un ffordd arall i mewn i'r Ddinas am bob awr o'r dydd.<ref>{{eicon en}} "[https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-london-43878479 Bishopsgate bomb: Photos issued on 25th anniversary]", [[BBC]] (24 Ebrill 2018). Adalwyd ar 5 Mawrth 2021.</ref>