Sam Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudwyd y dudalen Samuel Cornelius Jones i Sam Jones gan Dafyddt dros y ddolen ailgyfeirio: Ei enw mwy adnabyddus
Dim crynodeb golygu
Llinell 6:
Ganwyd '''Samuel Jones''' yng [[Clydach|Nghlydach]] yn nawfed plentyn i Mary Ann Jones (1866-1921) a Samuel Cornelius Jones (1865-1939). Cafodd ei rieni pymtheg o blant ond wyth yn unig a oroesodd fabandod. Fe'i gelwid yn 'Sammy bach' gan y teulu a mynychodd yr ysgol gynradd leol ac yna, yn 1910/11, Ysgol Ganol Sirol Ystalyfera. Yn 1912 symudwyd yr ysgol i Bontardawe a'i galw yn Ysgol Gynradd Uwch Pontardawe.
 
Ar 3 Medi 1917, ymunodd gyda'r [[Llynges]] an dreulio bron ddwy flynedd fel 'llumanwr' (ordinary signalman) cyn gadael y Llynges ar 10 Chwefror, 1919. Wedi'r rhyfel, ail-afaelodd yn ei addysgu ffurfiol yn Hydref 1919 gan fynychu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd cymdeithasol y coleg. Chwaraeodd i dîm rygbi'r coleg ac hefyd i'r tîm hoci. Enillodd ei dystysgrif addysg - ail ddosbarth - yn ei drydedd flwyddyn 1922-23. Graddiodd y flwyddyn ganlynol, 1924, mewn Cymraeg a Hanes.<ref>{{dyf gwe|url=https://bywgraffiadur.cymru/article/c10-JONE-SAM-1898|teitl= JONES, SAMUEL (1898-1974), newyddiadurwr, darlledwr a Phennaeth y BBC ym Mangor|cyhoeddwr=Y Bywgraffiadur Cymreig|dyddiadcyrchiad=19 Mawrth 2021}}</ref>
 
==Gyrfa==