Bou Salem: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rescuing 1 sources and tagging 0 as dead.) #IABot (v2.0.8
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 3:
Dinas yng ngogledd-orllewin [[Tiwnisia]] yw '''Bou Salem'''. Mae'n gorwedd yn nyffryn [[afon Medjerda]], ar lan ogleddol yr afon honno, yn [[Jendouba (talaith)|nhalaith Jendouba]], tua hanner ffordd rhwng dinasoedd [[Jendouba]] (i'r gorllewin) a [[Béja]] (i'r dwyrain). Mae ganddi boblogaeth o 20,098 (2004).
 
I'tr gogledd o'r dref mae'r tir yn codi'n araf i fynyddoedd coediog y [[Kroumirie]]. Mae Bou Salem yn ganolfan amaethyddol a cheir nifer o ffermydd yn y wlad o'i chwmpas. Mae ganddi orsaf ar reilffordd [[Tiwnis]]-[[Ghardimaou]] a rhed y briffordd GP5 trwy'r dref. Ar ei chyrion ceir pont ar afon Bou Hertma, sy'n disgyn o'r Kroumirie i'w chymer ar afon Medjerda gerllaw.
 
Enwir y dref ar ôl [[sant]] lleol, Sidi Bou Salem.