Cambyses II, brenin Persia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
gwybodlen, bocs olyniaeth
Llinell 1:
{{Person
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
|}}
 
'''Cambyses II''' ([[Hen Berseg]]: ''Kambūjia'', [[Perseg]]: کمبوجیه (bu farw 522 CC) oedd ail frenin [[Ymerodraeth Persia]].
 
Roedd Cambyses yn fab i [[Cyrus Fawr]]. Pan goncrodd Cyrus [[Babilon]] yn 539 CC, ceir Cambyses yn arwain y gwasanaethau crefyddol, ac roedd datganiad Cyrus i drigolion Babilon yn cynnwys enw Cambyses gyda'i dad yn y gweddïau i [[Marduk]]. Gelwir ef yn frenin Babilon ar un dabled. Yn [[530 CC]], cyn i Cyrus gychwyn ar ei ymgyrch olaf, gwnaeth ei fab yn gyd-frenin.
 
Yn [[525 CC]], ymgyrchodd Cambyses yn erbyn [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], lle'r oedd [[Amasis II]] newydd farw, ac wedi ei olynu gan ei fab, [[Psammetichus III]]. Gorchfygodd fyddin yr Aifft mewn brwydr ger [[Pelusium]], ac yn fuan wedyn cipiodd ddinas [[Memphis (Yr Aifft)|Memphis]]. Daliwyd Psammetichus a'i ddienyddio wedi iddo wrthryfela. Ceisiodd Cambyses goncro [[Kush]], teyrnasoedd [[Napata]] a [[Meroe]] yn ne yr hyn sy'n awr yn [[Sudan]], ond bu raid iddo ddychwelyd wedi i'w fyddin fethu croesi'r anialwch. Ceir nifer o hanesion amdano gan [[Herodotus]], lle ceir traddodiad iddo ladd [[Apis (mytholeg))|tarw Apis]], a chael ei gosbi trwy ei yrru'n wallgof. Dywed hefyd iddo yrru byddin o 50,000 i ymosod ar oracl [[Amun]] yn [[Siwa]], ond i'r fyddin ddiflannu mewn storm dywod enfawr ar y ffordd.
 
Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan [[Darius I, brenin Persia|Darius]], a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain. Claddwyd ef yn [[Pasargadae]].
 
{{dechrau-bocs}}
{| border=2 align="center" cellpadding=5
{{bocs olyniaeth
|-
|width="30%" aligncyn ="center"|'''Rhagflaenydd :<br />'''[[Cyrus Fawr]]
|width teitl ="40%" align="center"|'''[[Ymerodraeth Persia|BrenhinoeddBrenhin Ymerodraeth Achaemenid Ymerodraeth Persia]]<br />Cambyses II'''
| blynyddoedd = [[530 CC]] - [[522 CC]]
|width="30%" alignar ôl ="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Smerdis, brenin Persia|Smerdis]]
|}
}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
[[Categori:Marwolaethau 522 CC]]