Dant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 15:
==Arferion Hanesyddol==
Roedd yna arferiad (ffashiwn?) ddechrau’r 20ed ganrif sy’n anodd iawn i ni ddeall erbyn heddiw, sef talu deintydd i dynnu’ch dannedd i gyd er mwyn prynu danedd gosod (dannedd dodi) smart a di-drafferth i bara am oes! Dyma ddwy enghraifft byw o ddyddiadur Griffith Thomas:
*3 Ebrill 1918 [[Rhiw]], Llŷn: "Mercher 3. Fi a Eliza yn mynd i’r dre. Llwytho yr SS Anne. 350 Tynnu fy nanedd - dim gwaith.".
*13 Awst 1929 Rhiw Llŷn: "Arian gan Daniel 5/7d. Yn ffair awst yn gorffen tynnu fy nanedd" (11 mlynedd rhwng y ddau!.<ref>Dyddiadur Griffith Thomas, AelyBryn yn Tywyddiadur[https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=Tynnu-fy-nanedd&currentpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=true&bwletinau=true#angori]</ref>
 
Dyma rai cofnodion o hyn wedi eu codi o Facebook (Grwp Cymuned Llên Natur):
*Yn [[Tregaron|Nhregaron]] yn y 60au roeddech yn gallu neud hyn ar yr NHS gyda'r deintydd oedd yn dod ar ddiwrnod mart! (Jenny Heney)
*Cofio fy ffrind yn dweud i’w nain ([[Bethesda]]) gael tynnu ei dannedd igyd a chael set cyfan o ddannedd gosod fel presant priodas gan ei rhieni!! I arbed trafferth efo nhw yn y dyfodol! Fel Dowry od. Dwi ddim yn gwybod pryd roedd hyn ond debyg y byddai ei nain tua 80-90 erbyn hyn. (Catrin Meirion)
*Fe dynnwyd dannedd Mam i gyd jyst cyn fy ngeni i yn y 40au i arbed trafferth! Ac roedd gen i aelod o staff yn y 70au gafodd dynnu ei dannedd yn anrheg 18 oed. (Megan Tudur)