Helo bawb sy yno. Dwi.n awyddus i wybod côd i ganiatau i mi gyfeirio at UN ddolen we allanol sawl tro yn y testun ond dim ond unwaith yn y cyfeiriadau. Mae 'Adam' wedi dangos sut i wneud rhywbeth tebyg efo cyfeiriadau at deitlau llyfrau, sydd wdi gweithio'n dda iawn, onddwi'n methu wneud iddo weitho efo dolenni. Faswn i'n ddiolchgar iawn am help.

Haia Duncan! A chroeso cynnes i ti! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:13, 19 Ebrill 2017 (UTC)Ateb

Diolch am d'amynedd! Mi gei fil ffon o fama i Niwbwrch! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:26, 20 Ebrill 2017 (UTC)Ateb

Diolch! golygu

Jyst deud fod dy erthygl yn edrych yn dda iawn! Melys moes mwy! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 16:17, 23 Ebrill 2017 (UTC)Ateb

Ref a chodio golygu

Dyma ddolen i'r ddalen: Gwefan Llechwedd Fwyalchen; adalwyd 24 Ebrill 2027.

Efallai y bydd hwn hefyd o help:

Cymorth:Canllaw Pum Munud. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:32, 24 Ebrill 2017 (UTC)Ateb

Sain - gelli roi sain o fewn llinell (inline), drwy ddefnyddio {{Sain|TurdusTorquatusSongSlovakiaOlympusLS11file0206.ogg|testun}}, sy'n rhoi   testun . Mae wedi'i roi yn yr erthygl Mwyalchen y mynydd.


Croeso Duncs! golygu

Croeso Mr Edward Llwyd ei hun! Gwych cael d'arbenigedd! Welai di ym Mhlas Tan y Bwlch! Cell Danwydd (sgwrs) 00:10, 5 Mai 2017 (UTC)Ateb

Enwau aelodau'r gGweithdy golygu

Faset ti ddim yn ychwanegu enwau rhai o'r rhai fu wrthi ym Mhlas Tan y Bwlch os g y n dda? Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur. Dau neu dri sydd yno, heb enwau. Diolch Duncan! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:08, 14 Mai 2017 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Wedi ei wneud

Llyffant - ond pa fath? golygu

Mae @Lesbardd: wedi uwchlwytho llun broga, ond nid oes son pa fath. Unrhyw syniad? Mae wedi uwchlwytho llawer o rywogaethau dros y blynyddoedd. Cofia y medri eu rhoi ar eich Geiriadur Rhywogaethau, os y dymuni. Cell Danwydd (sgwrs) 19:14, 28 Gorffennaf 2017 (UTC)Ateb

Wedi chwilio am y llyffant ond yn ofer

Ffotograffydd gwych arall yn uwchlwytho ar Comin golygu

Jyst rhag ofn nad wyt wedi'i weld: sbia ar stwff Morgan Owen ar Comin!!! Bril! Newydd roi ei lun o wyddfid ar yr erthygl gyfatebol. Ac mae'r erthyglau ti'n gweithio arnyn nhw hefyd yn gyfoethog iawn eu gwybodaeth! Mae pethe'n edrych yn dda ar erthyglau gan naturiaethwyr Cymru! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:11, 2 Medi 2017 (UTC)Ateb

Mynyddfor a Mynydd Mawr golygu

Haia @Duncan Brown: mae na stwff da yn yr erthygl Mynyddfor gen ti, a braw i mi oedd gweld nad oes erthygl ar gyfesurynnau grid! Mae Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn bod, fodd bynnag. Dw i'n meddwl fod na erthygl ar y mynydd hwn yn barod - gweler Mynydd Mawr ac felly bydd angen eu huno. Fedri di, neu wyt ti am i mi wneud? Gallem wedyn droi'r erthygl sbar yn ailgyfeiriad bach del. Cofion fil... Llywelyn2000 (sgwrs) 15:53, 16 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Smai @Llywelyn2000: Diolch i ti. Wedi cyfuno'r ddau ond ddim yn gwybod sut i greu "ailgyfeiriad bach del"! Wnei di wneud hynny?

Cyfeiriadaeth aml-ddefnydd golygu

Haia Duncan. Parthed dy erthygl wych Ffwlbart - doedd Nodyn:IUCN2008 heb ei diweddaru ers 4 mlynedd, felly gwnaed hynny ac mae'n gweihio rwan. Mewn un arall, doedd y prif ran ddim ar gael (gweler dy ganllaw gwych yn yr adran 'Canllawiau' a sgwennwyd gen ti!). Mi wnes i fewnforio'r rhan gyntaf o enwici, ac mae'n gweithio rwan. Ymlaen a diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:44, 16 Mehefin 2018 (UTC)Ateb

Translation golygu

Hello! May I ask you for a translation of the code placed on this page into Cymraeg? Can you put in under the English version. Thank you very much! :) -XQV- (sgwrs) 19:22, 17 Mehefin 2018 (UTC)Ateb

Try this:
Diolch am eich cyfieithiad! :) Ewch [http://translatewiki.net/wiki/User:Xð/translation yno]!
Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 22 Mehefin 2018 (UTC)Ateb

Golygu teitl tudalen golygu

Tybed all rhywun esbonio sut mae golygu teitl - dwi angen rhoi to bach ar Llŷn ac yn methu cael Wici i'w dderbyn. Diolch yn fawr

Morwennol -> Môr wennol golygu

Haia Duncan! Yn dilyn y newid meddwl gan GELl am sillafiad yr enw, ydy newid y rhywogaethau e.e. Morwennol -> Môr wennol (tua phymtheg i gyd) yn gwbwl bendant? Neu ydy'r enw yn nwylo'r pwyllgor safoni / Bruce ayb? Os caf gadarnhad gen ti, yma, yna mi af ati i'w newid. Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:08, 2 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Diolch am y sgwrs! Mi af ati i'w newid yn ôl asap! Neu mae croeso i ti fynd ati, wrth gwrs! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:31, 8 Mawrth 2019 (UTC)Ateb
Ys dywed Delyth: Mae angen y to bach ar yr o a’r cysylltnod i gadw’r ynganiad cf. geiriau yn dechrau yn ôl- e.e. ‘ôl-gyfeirio’ sy’n cael eu hynganu yn wahanol i ôl- fel yn ‘olwyn’. felly: Môr-wennol. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:18, 24 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Cwestiwn: mae gennym Môr-wennol fach a Morwennol fechan. Ai'r un rheyogaeth sydd yma? Os felly, pa enw? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:30, 24 Ebrill 2019 (UTC)Ateb

Dyfyniadau; tystiolaeth eilradd; crynodeb golygu

Roeddet yn holi am ein polisi ar hyn. Mae gen i nodyn i'r perwyl ar y ddalen Sgwrs:Torgoch. Melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:30, 8 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad golygu

    Gwerthfawrogiad o'th Waith Arbennig!
Carwn gyflwyno'r seren hon i ti, rhen gyfaill, fel gwerthfawrogiad o'th waith arbennig, a diflino ym myd natur a'r amgylchedd! Cyflwyniad personol ydy hwn, ond gwn hefyd fod dy waith yn cael ei werthfawrogi gan y gymuned a'r darllenwyr! Diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:17, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Seren golygu

Braint o’r mwyaf Llywelyn2000. Ond i fi mae’r diolch am gyfle i gyfrannu i gronfa mor wych a Wici am yr amgylchedd ac am fod yn hyblyg wrth dderbyn yr amryfal gyfraniadau sydd yn dod i’m rhan i’w rhannu. Duncan (sgwrs) 21:07, 28 Mawrth 2019 (UTC)Ateb

Llysiau'r afu golygu

Helo Duncan. Dwi wedi cychwyn creu erthyglau ar lysiau'r afu, fel y weli yma. Rho wybod os fedri awgrymu gwelliant, neu ddefnydd o dermau ayb. Fe weli y bydd y Categori:Llysiau'r afu yn ddefnyddiol i'w casglu ynghyd. Cofion gorau... Cell Danwydd (sgwrs) 13:19, 3 Mai 2019 (UTC)Ateb

Smai Cell Danwydd
Taclus a chynhwysfawr iawn. Cadwa fi yn y lŵp fel y gallaf dynnu sylw ein amryfal ddefnyddwyr at y cam mawr hwn yn natblygiad gwasanaeth Llên Natur/Wicipedia. Duncan
Diolch Duncan! Weithiau, mae'r wybodaeth yn dennau iawn, felly bydd rhai erthyglau'n adlewyrchu hynny! Un, hyd yma, sydd ar yr Wicipedia Saesneg!!! Fy unig broblem, ydy fod hyn yn cymryd tipyn o amser, gan mod i'n gweithio'n llawn amser. Mi driai eu gwneud rhyw swp bob dydd, ond mae croeso i ti gael rhai o'r y sgerbydau (gan Llyw), os oes brys. ON Cofia arwyddo Sgyrsiau efo 4 sgwigl (~~~~ Pob hwyl! Cell Danwydd (sgwrs) 15:19, 3 Mai 2019 (UTC)Ateb


Cell Danwydd Doedd gen i ddim syniad faint o waith oedd efo nhw. (Meddwl mai rhyw bot majic neu tylwyth teg oedd yn gwneud go iawn!!). Wrth gwrs wna’i drio helpu. Dau gwestiwn: 1. Bedi “Llyw”? 2. Wela’i y sgwigls ~~~~ ond dim syniad be ma nhwn dda! Tan toc Duncan

Ewau Lladin y Bryophytes golygu

Duncan, faset ti'n gwiro fod yr enwau Lladin yn cyferbynnu'n gywir i'r enwau Cymraeg os gweli di'n dda? Mae gen i deimlad annifyr fod y db wedi llithro! Diolch! Cell Danwydd (sgwrs) 15:41, 24 Mai 2019 (UTC)Ateb

Na, mi ddefnyddiais db anghywir, felly bydd yn rhaid i mi fynd drwyddyn nhw i gyd ac symud yr enw Cymraeg / yr erthygl i enw cywir! Dwyawr o waith! Shitsen! Cell Danwydd (sgwrs) 16:08, 24 Mai 2019 (UTC)Ateb
Dos yn ol i'r gronfa rois i ti (rhif 9); mae'n ymddangos fod yr ail golofn (yn Rhif 10) wedi llithro un lle. Mi wnest ddileu'r linell ar ol 'Edeulys llabedog = Cephaloziella integerrima ', sy'n llinell hollol gywir Ond yna daw Edeulys y mwynbridd = Cephaloziella nicholsonii sydd wedi'i ddileu gen ti, am ryw reswm! Ond ychydig iawn o erthyglau sy'n dilyn hynny, felly dim probs! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:32, 25 Mai 2019 (UTC)Ateb
Wedi eu cywiro ar Wicidata. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:53, 25 Mai 2019 (UTC)Ateb

Robin Di hynny’n iawn felly. Oes angen i mi wneud rhywbeth? Gyda llaw mae’r eginau (os eginau hefyd) y llysiau afu yn wych (gwell na’r Saesneg dwi’n sylwi!). Sut es ti o’i chwmpas hi? D

We sent you an e-mail golygu

Hello Duncan Brown,

Really sorry for the inconvenience. This is a gentle note to request that you check your email. We sent you a message titled "The Community Insights survey is coming!". If you have questions, email surveys@wikimedia.org.

You can see my explanation here.

MediaWiki message delivery (sgwrs) 18:48, 25 Medi 2020 (UTC)Ateb

Ffenoleg golygu

Sut mae, Duncan. Mae angen cyfeiriadau a chategori ar yr erthygl cyn y gellir ei chymeradwyo. Deb (sgwrs) 09:53, 22 Ionawr 2021 (UTC)Ateb

Arthur Griffith golygu

Diddorol yw dy sylwadau ar y dyn diddorol yma. Ti'n son am baentiad, ond dyw'r llun ddim yn yr erthygl. Help plis! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:56, 1 Mawrth 2021 (UTC)Ateb

Alun Williams yn ennill 1af ac ail yn 'Wici'r Holl Ddaear' golygu

Haia Duncan!

Tybed a fedri di gynnwys gwybodaeth am y gamp fawr yma gan un o'ch haelodau yn y Bwletin nesaf? Daeth Alyn yn gyntaf ac yn ail yn y gystadleuaeth Wici'r Holl Ddaear / Wiki Loves Earth chydig ddyddiau yn ol. Lluniau fantastig gando, ymhlith 1,888. Rhagor yn fama:

Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:03, 5 Medi 2021 (UTC)Ateb

Newydd weld hwn (20/12). Byddaf yn siwr o wneud! sgwrs

WiciBrosiect Cymru golygu

Os oes gennych ddiddordeb, ymunwch gyda WiciBrosiect Cymru os gwelwch yn dda! Diolch yn fawr Titus Gold (sgwrs) 15:39, 29 Ebrill 2023 (UTC)Ateb