Joseph Addison: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Gwybodlen wd
ehangu (addasu testun o'r Gwyddoniadur Cymreig)
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
{{Person | fetchwikidata=ALL | onlysourced=no | suppressfields= cenedl | nationality = {{banergwlad|Lloegr}} | dateformat = dmy}}
[[Ysgrifwr]], [[bardd]], a [[dramodydd]] yn yr iaith [[Saesneg]] a gwleidydd o [[Sais]] oedd '''Joseph Addison''' ([[1 Mai]] [[1672]] – [[17 Mehefin]] [[1719]]). Drwy gyd-sefydlu a golygu cylchgronau ''The Tatler'' a ''The Spectator'' gyda [[Richard Steele]], cyfrannai yn sylfaenol at [[llên Lloegr yn y 18fed ganrif|ddiwylliant llenyddol Lloegr yn y 18g]]. Fe'i disgrifir yn ''[[Y Gwyddoniadur Cymreig]]'' fel "un o brif addurniadau llenyddiaeth Saesnig".<ref>John Parry a J. Ogwen Jones (gol.), ''[[Y Gwyddoniadur Cymreig]]'' cyf. 10 (Dinbych: Thomas Gee, 1879), t. 421.</ref>
 
Ganed ym mheriglordy Milston, [[Wiltshire]], yn fab i'r Dr Lancelot Addison, periglor y plwyf a fyddai wedi hynny yn ddeon [[Caerlwytgoed]], [[Swydd Stafford]]. Ar ôl derbyn elfennau ei addysg gartref, yng [[Caersallog|Nghaersallog]], a Chaerlwytgoed, symudwyd ef i [[Ysgol Charterhouse]] yn [[Smithfield]], [[Llundain]], a oedd ar y pryd hwnnw o dan arolygiaeth Dr Ellis. Yno daeth i gydnabyddiaeth a ffurfiodd gyfeillgarwch gyntaf â Richard Steele. Ym 1687, aeth i [[Coleg y Frenhines, Rhydychen|Goleg y Frenhines, Rhydychen]], a dwy flynedd yn ddiweddarach etholwyd ef yn ysgolor yng [[Coleg Magdalen, Rhydychen|Ngholeg Magdalen]]. Yn y blynyddoedd dyfodol, enillodd gymeriad uchel oherwydd ei allu i gyfansoddi barddoniaeth [[Lladin|Ladin]]. Ym 1693 y gwnaeth ei gais cyntaf i farddoni yn yr iaith Saesneg. Cyfansoddodd gân fechan i annerch [[John Dryden]], y Bardd Llawryfog, a edmygid yn fawr gan y beirniaid gorau. Ymddengys ei fod, ar un adeg, yn barod i ddilyn esiampl ei dad, a chymryd ei ordeinio yn weinidog yn [[Eglwys Loegr]], ond disgynnodd rhywbeth i beri iddo roddi heibio y penderfyniad hwn. Drwy offerynoliaeth yr Arglwydd Somers, penderfynodd y llywodraeth roddi iddo flwydd-dâl o £300, a'i galluogodd, tua diwedd 1699, i foddio ei dueddfryd i fynd ar daith drwy'r Eidal. Ar ei ddychweliad yn ôl, ym 1703, cyhoeddodd hanes ei deithiau. Ar farwolaeth [[Wiliam III, brenin Lloegr|Wiliam III]], daeth y Torïaid i awdurdod, ac ataliwyd ei flwydd-dâl a ni dderbyniodd ond am un flwyddyn, a bu Addison am beth amser megis yn segura. Ond ym 1704, dechreuodd cyfnod newydd ar ei fywyd, a barhaodd hyd 1710, pan yr oedd yn 38 oed. Dyma gyfnod cyntaf ei yrfa swyddol, ac er ei fod yn hollol ddiffrwyth ym mron o ran cynhyrchion llenyddol, yr oedd ddigon uwchlaw angen. O hynny allan roedd ei safle fel dyn cyhoeddus wedi ei sefydlu.
[[Awdur]], [[bardd]], [[gwleidydd]], [[dramodydd]] a [[newyddiadurwr]] o Loegr oedd '''Joseph Addison''' ([[1 Mai]] [[1672]] - [[17 Mehefin]] [[1719]]).
 
Cymeradwywyd ef i sylw yr Arglwydd Godolphin fel un cymwys i ddathlu buddugoliaeth [[John Churchill, Dug 1af Marlborough|Dug Marlborough]] yn Blenheim. O ganlyniad i hynny, cyfansoddodd y bryddest a elwir "The Campaign", a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth mawr ac a arweiniodd i'w benodiad yn un o ddirprwywyr yr apêl perthynol i'r cyllid. Ym 1706, gwnaed ef yn un o ysgrifenyddion y wladwriaeth, a thua'r pryd hwn y cyfansoddodd ei opera a elwir ''Rosamond''. Etholwyd ef yn aelod o [[Senedd Prydain Fawr]] ym 1708, ac eisteddai yn [[Tŷ'r Cyffredin (DU)|Nhŷ'r Cyffredin]] yn gyntaf dros [[Lostwithiel]] ac wedi hynny dros [[Malmesbury]], ac etholwyd ef chwe gwaith i'w chynrychioli, sef o 1710 hyd ei farwolaeth. Methiant ydoedd ei fywyd seneddol yn ddiau. Nid ydyw yn hysbys pa ran a gymerwyd ganddo ym manylion y gweithrediadau a ddygid ymlaen, ond yr oedd bob amser yn aelod distaw, oddi eithr ei fod wedi gwneud ymgais i siarad unwaith, pryd y gorfodwyd ef i eistedd i lawr mewn dryswch. Mynegir amdano hefyd ei fod mor fanwl ynghylch cyfansoddiad ei frawddegau, fel y byddai hynny yn ei ddrysu weithiau pan yn paratoi bryslythyr pwysig yn frysiog, ac iddo lawer gwaith orfod rhoddi y gorchwyl i un o'i ysgrifenyddion, er mwyn ei gael mewn pryd.
Cafodd ei eni yn Milston yn 1672 a bu farw yn Kensington.
 
Ym 1709, aeth drosodd i [[Iwerddon]] yn ysgrifennydd i'r Ardalydd Wharton, yr arglwydd raglaw, a phenododd y frenhines ef yn geidwad y cofnodion. Eisteddai hefyd, yn [[Senedd Iwerddon]], yn aelod dros Fwrdeistref [[Cavan]] o 1709 i 1713. Mae'r saith mlynedd hyn o'i fywyd swyddol ym mron yn wagnod mewn ystyr lenyddol yn ei hanes, nes y deuir yn agos i'w terfyn. Yn ystod misoedd diweddaf ei dymor swyddol, pa fodd bynnag, ysgrifennodd lawer i ''The Tatler'', a ddygwyd allan gan ei hen gyfaill Richard Steele. Aeth y Chwigiaid allan o awdurdod, a bu'r Torïaid yn llywodraethu hyd ddiwedd teyrnasiad Ann ym 1714, felly rhyddhawyd Addison o hualau swydd, a chafodd gyflwyno pedair blynedd gorau ei oes i gyfoethogi llenyddiaeth y Saeson, ac hefyd i ychwanegu yn fawr at ei enwogrwydd ei hun. Treuliwyd y pedair blynedd hyn yn bennaf ganddo i gyfansoddi ei draethodau cyfnodol digyffelyb. Rhoes y gorau i ''The Tatler'' yn nechrau 1711, a dilynwyd ef gan ''The Spectator'', a ddaeth allan yn gyntaf ar 1 Mawrth 1711. Parhaodd i ddyfod allan bob dydd ond y Sul hyd 6 Rhagfyr 1712. Erbyn hynny, roedd y 555 o rifynnau a gasglwyd yn y saith gyfrol gyntaf wedi eu cwblhau, a chydlafuriodd Addison â Steele ar hyd y ddwy flynedd hynny. I Addison, yn ddiamau, yr oedd ''The Spectator'' yn ddyledus, i raddau mawr, am brif ragoriaethau. Byddai ei bapurau yn cael eu llawnodi ag un o'r llythrennau a ffurfiai enw yr awen, sef Clio. Mor fawr oedd poblogrwydd ''The Spectator'' fel y mynegir fod tuag ugain mil o gopïau ohono, weithiau, yn cael eu gwerthu mewn diwrnod. Pan y rhoddwyd ef i fyny, cyhoeddodd Steele y ''Guardian'' ym Mawrth 1713, ond darfu gyda'r rhifyn 175. Cyfansoddwyd 53 o draethodau'r ''Guardian'' gan Addison, ond nid ydynt, ar y cyfan, mor ragorol a'i draethodau yn ''The Spectator''. Ym misoedd diwethaf 1714 ymddangosodd yr wythfed, a'r olaf, o gyfrolau ''The Spectator''. O'r traethodau sydd yn y gyfrol hon, mae 24 o law Addison, ac yn eu mysg amryw o'r rhai rhagoraf o'i holl ysgrifeniadau. Ym 1713 ymddangosodd ei dreis-gân "Cato". Roedd ei llwyddiant yn anarferol, a chafodd ei darllen gydag awyddfryd a phleser drwy y wlad yn gyffredinol.
Addysgwyd ef yng [[Coleg y Frenhines, Rhydychen|Ngholeg y Frenhines, Rhydychen]] ac Ysgol Charterhouse. Yn ystod ei yrfa bu'n aelod o [[Senedd Prydain Fawr]], aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon ac yn aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon.
 
Daeth gyrfa lenyddol Addison ym mron i ben yn fuan ar ôl marwolaeth y Frenhines Ann, yn Awst 1714, gyda ei fod wedi cyrraedd 42 oed, ond bu fyw bum mlynedd wedi hynny. Ym 1715, dechreuodd gyhoeddi ei ''Freeholder'', a oedd yn fath o ''Spectator'' gwleidyddol, ac a ysgrifennwyd yn gwbl ganddo'i hun. Cyhoeddwyd 55 rhifyn yn unig ohono. Yn y flwyddyn ddilynol, priododd Addison ag Iarlles waddolog Warwick, ond y mae lle i gasglu na chwanegodd hyn nemawr at ei ddedwyddwch. Ym 1717, penodwyd ef yn un o brif ysgrifenyddion y wladwriaeth, ond mae'n ymddangos fod y gwaith trwm a ddisgynodd arno mwn cysylltiad â'r swydd, ynghyd â'r caethder a'r diffyg anadl yr oedd yn ddarostyngedig iddynt o'r blaen, wedi bod yn foddion i wanhau ei iechyd, ac i brysuro dydd ei ymddatodiad. Gan hynny, ymhen 11 mis, fe ymddiswyddodd, a chaniatawyd iddo flwydd-dâl o £1,500. Defnyddiodd ei amser yn awr i gyfansoddi ei draethawd ar "The Evidences of the Christian Religion", ond ni bu fyw i'w gwblhau. Bu farw o ddiffyg anadl a'r dyfrglwyf yn Holland House, [[Kensington]], yn 47 oed, a fe'i claddwyd yn [[Abaty Westminster]], yng Nghornel y Beirdd.
 
Ystyrid Addison ar un adeg yn fardd Saesneg mawr, ac yn ddiweddarach yn bwysig am ei bryddestau Lladin. Bellach, mae ei enwogrwydd yn gorffwys yn bennaf ar ei draethodau yn ''The Spectator'' a chyfnodolion eraill. Caiff ei arddull ei ystyried yn gynllun o goethder a chywirdeb. Meddai [[Samuel Johnson]], "Pwy bynnag sydd yn ewyllysio ymberffeithio mewn arddull Saesneg, gynefin ond nid anghoeth, brydferth ond nid rhodresgar, rhodded ei ddyddiau a'i nosweithiau i astudio cyfrolau Addison". Mewn gwirionedd, nid oes un o'r clasurwyr Saesneg a werthfawrogir yn fwy ac a ganmolir yn uwch nag efe. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohono gan [[Lucy Aikin]] ym 1843, a chyhoeddwyd casgliad o'i holl weithiau gan Baskerville yn [[Birmingham]] ym 1761. Cyhoeddwyd ''The Spectator'' o'r newydd ym 1871 gyda nodiadau gan yr Athro [[Henry Morley]].
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
== Dolenni allanol ==
*[http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1690-1715/member/addison-joseph-1672-1719 Joseph Addison - Gwefan History of Parliament]
*[https://doi.org/10.1093/ref:odnb/156 Joseph Addison - Bywgraffiadur Rhydychen]
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
 
{{Rheoli awdurdod}}
Llinell 16 ⟶ 25:
{{DEFAULTSORT:Addison, Joseph}}
[[Categori:Erthyglau bot Wicipobl]]
[[Categori:Aelodau Seneddol Prydain Fawr]]
[[Categori:Beirdd Seisnig yr 17eg ganrif]]
[[Categori:Beirdd Seisnig y 18fed ganrif]]
[[Categori:Beirdd Seisnig yn yr iaith Ladin]]
[[Categori:Beirdd Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Cyn-ddisgyblion Ysgol Charterhouse]]
[[Categori:Cyn-fyfyrwyr Coleg y Frenhines, Rhydychen]]
[[Categori:Dramodwyr Seisnig y 18fed ganrif]]
[[Categori:Dramodwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Genedigaethau 1672]]
[[Categori:Gwleidyddion Seisnig y 18fed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 1719]]
[[Categori:LlenorionPobl Seisnigo Wiltshire]]
[[Categori:BeirddYsgrifwyr a thraethodwyr Seisnig y 18fed ganrif]]
[[Categori:GwleidyddionYsgrifwyr a thraethodwyr Seisnig yn yr iaith Saesneg]]