Y Gwledydd Isel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
gwybodlen
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle }}
Rhanbarth hanesyddol yng ngogledd-orllewin tir mawr [[Ewrop]] yw'r '''Gwledydd Isel''' sydd yn cyfateb i'r [[cenedl-wladwriaeth]]au modern [[yr Iseldiroedd]], [[Gwlad Belg]], a [[Lwcsembwrg]]. Daw'r enw o'r ffaith bod llawer o'r tiroedd hyn, ar hyd arfordir [[Môr y Gogledd]] ac am gryn bellter i mewn i'r berfeddwlad, naill ai islaw [[lefel y môr]] neu ychydig yn uwch na hi. Mae mwy na chwarter o gyfanswm arwynebedd tir yr Iseldiroedd yn is na lefel y môr, er enghraifft, a man isaf y wlad honno, y Zuidplaspolder ar gyrion [[Rotterdam]], yn gorwedd 6.76 m o dan lefel y môr. Amddiffynnir y [[polder]]au, sef y darnau o dir gwastad wedi eu draenio a'u hadennill o'r môr, rhag [[llifogydd]] gan dwyni tywod naturiol yn ogystal â system artiffisial o forgloddiau ac argaeau.