Impio: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B dol
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 6:
Gyda golwg ar y terfynau o fewn pa rai y gellir impio yn llwyddiannus, cynhwysa goed a phlanhigion o'r un rhywogaeth yn yr un dosbarth, ond fe'i cyfyngir i'r drefn naturiol hon. Gan hynny, y mae adroddiadau'r hynafiaid, eu bod yn impio yn llwyddiannus yr [[olewydd]] ar y [[ffigyswydd]], yr [[eirinen]] ar yr [[gellygen|ellygen]], a'r cyffelyb, yn anghredadwy. Dadleua naturiaethwyr diweddar na ddichon yr anghysonderau hyn fodoli; ac y mae llawer o arbrofion a wnaed yn sicrhau fod eu haeriadau yn gywir. Yr oedd [[Rhufain hynafol|yr hen Rufeiniaid]] i raddau yn deall ac yn arfer y gelfyddyd o impio, ond y mae'n amlwg eu bod ar yr un pryd yn dra anwybodus yn ei hegwyddorion, o blegiad y mae [[Plinius yr Hynaf]] yn gwneud crybwylliad am ryw [[afal]]au yn ei amser ef mor gochion, fel yr oeddynt yr un lliw â gwaed; a'r rheswm a rydd efe dros hynny yw eu bod wedi eu himpio ar foncyff y [[merwydd|ferwydden]]. Gwelwyd [[bedwen]] cyn hyn yn ei sefyllfa naturiol yn tyfu allan o'r [[ceirioswydden|geirioswydden]], ond wrth chwilio a manylu, yr oedd yn hawdd canfod i hedyn y fedwen ddisgyn i agen yn y pren, a dod i gyffyrddiad â darn pydredig ohono, ac o ganlyniad i hynny wreiddio a blaguro. Mewn modd cyffelyb, mae'r Eidalwyr yn gwneud i'r olewydd, yr [[iasmin]], y [[rhosyn]], a'r [[grawnafal]], gyd-dyfu ar yr [[orenwydden]]. Gellir sylwi hefyd y dichon blagur flodeuo a byw ar goed o natur wahanol iddynt, dros ychydig amser; eithr nid ydy'r fath undeb byth yn parhau, ond yn unig am dymor byr.
 
Y mae impio pren o rywogaeth wan ar un a fyddo yn naturiol yn fwy grymus, yn tueddu i'w gryfhau. Dylid gwybod a thalu sylw i'r gallu hwn i ddylanwadu sydd gan y boncyff ar yr impin: er enghraifft, os plennir [[coed afalau surion]] mewn gardd fechan, ac impio [[coed afalau]] arnynt, o bosibl na bydd iddynt dyfu yn fuan i faintioli gormodol. Ar y llaw arall, impier pren afalau ar goeden afalau surion Ffrengig, y lleiaf o'r holl genws honno, ac yna gellir ei dyfu mewn lle bychan iawn. Heblaw hynny, y mae gwreiddiau'r diweddaf yn feinion, ac yn rhedeg yn agos i'r wyneb, ac felly yn eu gwneud yn fanteisiol i'w plannu mewn tir bas ac ysgafn. Mae llawer o rywogaethau amrywiol o ffrwythau a phlanhigion addurniadol, brodorion hinsoddau tynerach, y gellir yn fanteisiol eu himpio ar goed caletach, megis yr [[eirinen wlanog]] a'r [[bricyllenbricyllwydden|fricyllen]] ar yr eirinen, a rhosynnau Tsieina ar goed rhosynnau gwylltion Ewropeaidd.
 
Mae'n eithaf hysbys fod gan [[eginyn]] planhigyn gymwysterau i ddyfod yn blanhigyn ei hun, ar ôl ei ysgaru oddi wrth y fam blanhigyn, os gosodir ef mewn amgylchiadau ffafriol i ymddatblygu. Ond nis gall dyfu os na bydd y rhan a gymerir o'r planhigyn yn cynnwys naill ai eginyn neu ynte elfennau un, a'r rhai hynny wedi eu perffeithio. Gan hynny, y mae'n rhaid fod yr hyn a fwriedir i dyfu yn cynnwys eginyn neu egin.