198,385
golygiad
(→top: Gwybodlen wd) |
Dim crynodeb golygu |
||
[[Daearyddwr]], [[fforiwr]], [[cyfieithydd]], [[llenor]], milwr, [[astudiaethau Dwyreiniol|dwyreinydd]], [[cartograffydd]], [[ethnolegydd]], [[ysbïwr]], [[ieithydd]], [[bardd]], [[cleddyfa|cleddyfwr]], a [[diplomydd]] o [[Saeson|Sais]] oedd y [[Capten (Y Fyddin Brydeinig a'r Môr-filwyr Brenhinol)|Capten]] '''Syr Richard Francis Burton''' [[Urdd Sant Mihangel a Sant Siôr|KCMG]] [[Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol|FRGS]] ([[19 Mawrth]] [[1821]] – [[20 Hydref]] [[1890]]). Roedd yn enwog am ei deithiau yn Asia, Affrica a'r Amerig yn ogystal â'i wybodaeth eang o ieithoedd a diwylliannau. Yn ôl un gyfrif, yr oedd yn medru siarad 29 o ieithoedd Ewropeaidd, Asiaidd ac Affricanaidd.
Ymhlith ei gampau enwocaf yw teithio mewn cuddwisg i [[Mecca]], cyfieithu'r ''[[Mil ac un o nosweithiau]]'' o'r Arabeg i'r Saesneg mewn [[argraffiad diymyrraeth|argraffiad heb ei sensro]], cyhoeddi'r ''[[Kama Sutra]]'' yn Saesneg, a theithio â [[John Hanning Speke]] dan arweiniad y tywysydd [[Sidi Mubarak Bombay]] i ymweld â [[Llynnoedd Mawr Affrica]] wrth chwilio am darddiad
Roedd yn gapten ym myddin [[Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain]] a gwasanaethodd yn India, ac am gyfnod byr yn [[Rhyfel Crimea]]. Wedi hyn cafodd ei gyflogi gan [[y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol]] i fforio arfordir dwyreiniol Affrica a daeth yn yr Ewropead cyntaf i weld [[Llyn Tanganyika]]. Yn hwyrach gwasanaethodd fel [[conswl (cynrychiolydd)|conswl]] dros Brydain yn [[Bioko|Fernando Po]], [[Santos (São Paulo)|Santos]], [[Damascus]] a [[Trieste]]. Roedd yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol a chafodd ei [[urdd marchog|urddo'n farchog]] ([[Urdd Sant Mihangel a Sant Siôr#KCMG|KCMG]]) ym 1886.
|