Cwmpawd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae'r cwmpawd traddodiadol yn ddibynnol ar [[maes magnetig|faes magnetig]], naturiol y Ddaear, gan wynebu pegynnau magnetig y Ddaear. Mae'r cwmpawd oddi fewn i ffôn yn dibynnu ar geirosgop bychan sy'n troelli.
 
[[Delwedd:Smartphone Compass.jpg|bawd|chwithdim|Cwmpawd [[Ffôn clyfar]] sy'n ddibynnol ar "fagnedomedr" o'i fewn.]]
 
==Hanes==
Llinell 18:
Yn achos yr Aeleg mae gair yr iaith honno am 'de' hefyd yn golygu 'cywir' ac mae'r rheswm yn mynd â ni yn ôl i'n cyndeidiau heul-addolgar, fel mae Ruairidh MacIlleathain yn esbonio:
 
:Y gair Gaeleg am granc meudwyol yw ''partan tuathal'', yn llythrennol y 'cranc chwithig' (neu trwsgwl). Cysylltir ''tuathal'' â chwith (aswy) a gogledd, yn ogystal aâ bod yn gysylltiedig â 'chwithdod' neu 'anghywirdeb'. Benthycwyd 'partan' o'r iaith Sgotaidd ac fe'i defnyddir o hyd am 'cranc' yn nhafodiaith Sgotaidd y gogledd- ddwyrain. Fe'm hatgoffir gan brif gyfeiriadau'r cwmpawd o'r arferiad hynafol o wynebu'r haul dyrchafol yn y dwyrain, gyda'r deheulaw, neu'r deheubarth, ar y llaw dde. Dwyrain yw ''an ear'' a olygai yn wreiddiol 'o flaen', a gorllewin yw ''an iar'', a olygai tu ôl. Fe geir y ddau derm mewn enwau lleoedd - er enghraifft, y gair Gaeleg am Ynysoedd Heledd gorllewin yr Alban yw ''Na h-Eileanan an Iar''.
:Y term am 'de' yw ''deas'', sydd hefyd yn golygu 'cywir'. Fe berthyn y gair o bell i'r Lladin ''dexter'' ac felly i'r Saesneg ''dextrous'', gydag atgofion eto o 'gywirdeb' a sgilgarwch.
:Cyfyd hyn o naturioldeb symudiad yr haul o'r dwyrain i'r gorllewin trwy ddeheuon yr wybren yn hemisffer y gogledd. Gwelir symudiad 'heulwedd' neu glocwedd (a elwir ''deiseil'' yn yr Aeleg) hyd heddiw yn niwylliant y Gael fel rhywbeth mwy dymunol na'r gwrthwyneb, sef ''tuathal''. Daw hwn o 'tuath', y gair Gaeleg am gogledd a olygai yn wreiddiol yn 'chwith'.