Syndicaliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[
Tueddiad neu ideoleg o fewn y [[mudiad llafur]] yw '''syndicaliaeth''' sydd yn pleidio [[gweithredu uniongyrchol]] gan y [[dosbarth gweithiol]] er mwyn trosglwyddo perchnogaeth a rheolaeth ar foddion cynhyrchu a dosbarthu i'r [[undeb llafur|undebau llafur]].<ref>{{dyf GPC |gair=syndicaliaeth |dyddiadcyrchiad=10 Medi 2021 }}</ref> Ei nod felly yw ysgogi [[rhyfel dosbarth]] a dymchwel [[cyfalafiaeth|y drefn gyfalafol]] sydd ohoni, gan gynnwys [[y wladwriaeth]], i ennill [[rheolaeth y gweithwyr|rheolaeth gyfan gan y gweithwyr]], drwy ddulliau [[chwyldro]]adol yn hytrach na diwygiadau neu'r broses seneddol. Mae syniadaeth syndicalaidd yn cyfuno damcaniaethau [[Marcsiaeth|Marcsaidd]] ac [[anarchiaeth|anarchaidd]], ac yn gwrthod yr agwedd [[totalitariaeth|dotalitaraidd]] ar [[comiwnyddiaeth|gomiwnyddiaeth]]. Mewn cyferbyniad â [[sosialaeth|sosialwyr]] eraill, canolbwyntia syndicalwyr ar drefnu'r dosbarth gweithiol drwy undebau llafur yn hytrach na [[plaid wleidyddol|phleidiau gwleidyddol]].
Llinell 5 ⟶ 6:
== Hanes ==
[[
Datblygodd syndicaliaeth ar sail y traddodiad gwrth-seneddol a'r taliadau anarchaidd ymhlith y [[dosbarth gweithiol]] yn Ffrainc. Tua diwedd y 19g, lluniwyd athrawiaeth chwyldroadol gan arweinwyr yr undebau llafur (''syndicats'') a ddangosai ddylanwad cryf yr anarchydd [[Pierre-Joseph Proudhon]] a'r sosialydd [[Auguste Blanqui]]. Rhoddwyd yr enw ''syndicalisme révolutionnaire'' ar y mudiad newydd, a benthycwyd felly y term syndicaliaeth gan ieithoedd eraill.<ref>Ystyr ''syndicalisme'' ar ben ei hun yn Ffrangeg yw "undebaeth lafur".</ref>
Llinell 17 ⟶ 19:
== Syniadaeth ==
[[
Yn ôl y meddylfryd syndicalaidd, dwy swyddogaeth sydd gan yr undeb llafur: i drefnu'r gweithwyr ar gyfer y rhyfel rhwng y dosbarthiadau, ac i ddarparu'r craidd elitaidd ar gyfer cymdeithas wedi'r chwyldro. Byddai'r dosbarth gweithiol yn cael ei ryddhau trwy weithredu uniongyrchol, yn enwedig tacteg y [[streic gyffredinol]], yn hytrach na thrwy'r broses seneddol neu wrthryfel gwleidyddol. Buont hefyd yn arddel [[difrod bwriadol]] a thactegau eraill a ystyriwyd yn filwriaethus gan sosialwyr anchwyldroadol.
Llinell 23 ⟶ 26:
Dychmygai'r gymuned ddelfrydol gan y syndicalwyr cynnar fel rhwydwaith o ''syndicats'' lleol, cymdeithasau rhydd o "gynhyrchwyr" (yn hytrach na gweithwyr). Byddai'r unedau sylfaenol hyn yn cysylltu a'i gilydd drwy'r ''bourses du travail'' (cyfnewidfeydd llafur), a fyddai'n gweithredu fel [[swyddfa gyflogi|swyddfeydd cyflogi]] ac asiantaethau cynllunio economaidd. Byddai'r cynhyrchwyr yn ethol cynrychiolwyr i weinyddu'r ''bourse du travail'' lleol ac i asesu anghenion economaidd yr ardal, ac felly i gydlynu'r drefn ddiwydiannol gyda'r ''bourses'' eraill.
== Gweler hefyd ==
Llinell 42:
* Howard Kimeldorf, ''Battling for American Labor: Wobblies, Craft Workers, and the Making of the Union Movement'' (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1999).
[[Categori:Syndicaliaeth| ]]▼
[[Categori:Sosialaeth]]
▲[[Categori:Syndicaliaeth| ]]
|