Edwyn Cynrig Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Nodyn:Person using AWB
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4:
Roedd Edwyn Roberts yn enedigol o bentref [[Cilcain]] yn [[Sir Fflint]], mab John a Mary Kendrick, ond ymfudodd gyda'i deulu i Wisconsin yn [[1847]]. Tua [[1856]] dechreuodd Mudiad Gwladfaol yn yr [[Unol Daleithiau]], lle roedd rhai o'r Cymry yn gweld bod eu cydwladwyr yn colli eu hiaith a'i diwylliant ac yn troi'n Americanwyr. Daeth Roberts yn amlwg yn y mudiad yma, a phan fethwyd trefnu i garfan o Gymry o America deithio i Batagonia, bwriadai ef ymfudo yno ar ei ben ei hun.
 
Fe'i perswadiwyd i deithio i Gymru i chwilio am eraill oedd yn barod i ymfudo i Batagonia, a daeth i gysylltiad a [[Michael D. Jones]]. Teithiodd trwy Gymru yn siarad ar y pwnc, a daeth yn rhan o gymdeithas a ffurfiwyd yn [[Lerpwl]] yn [[1861]] i drefnu'r fenter. Ym mis Mai [[1865]] gadawodd tua 160 o Gymry eu gwlad gan hwylio o Lerpwl i Borth Madryn, (heddiw [[Puerto Madryn]]) ym Mhatagonia ar long y ''[[Mimosa (llong)|Mimosa]]''. Cyrhaeddon nhw Borth Madryn ar [[28 Gorffennaf]] ac roedd Lewis Jones ac Edwin Roberts yno yn barod i'w cyfarfod.
 
Yn [[1866]], priododd Anne Jones, un o'r teithwyr ar y ''Mimosa''. Yn ddiweddarach, bu ef a nifer o gymdeithion yn chwilio am aur yn yr [[Andes]]. Cawsant hyd i rywfaint, a daeth Edwyn Roberts ar ymweliad a Chymru i geisio codi arian i ffurfio cwmni i'w weithio. Bu farw o drawiad y galon ym [[Bethesda|Methesda]] ychydig ddyddiau cyn cychwyn yn ôl i Batagonia.
 
Edwyn Roberts yw arwr ''Yr Hirdaith'' (Gwasg Gomer, 1999) gan [[Elvey MacDonald]], sy'n ddisgynnydd iddo.
 
==Llyfryddiaeth==
* Elvey MacDonald (1999), ''Yr Hirdaith'' (Llandysul: Gwasg Gomer, 1999) ISBN 1-85902-554-4
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Roberts, Edwyn Cynrig}}
[[Categori:Archentwyr Cymreig]]
[[Categori:Genedigaethau 1837]]
[[Categori:Marwolaethau 1893]]
[[Categori:Archentwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]
[[Categori:Y Wladfa]]