Mathew Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

croniclwr ac arlunydd Saesneg canoloesol (1200-1259)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Hanesydd canoloesol o Sais oedd '''Mathew Paris''' ([[c. 1200 - 1259). Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:14, 16 Chwefror 2007

Hanesydd canoloesol o Sais oedd Mathew Paris ([[c. 1200 - 1259).

Ymunodd Mathew ag abaty Benedictaidd St Albans yn 1217 ac aeth yn ddisgybl i'r croniclydd Roger o Wendover a'i olynu fel croniclydd yr abaty yn 1236. Teithiodd i astudio yn Ffrainc ddwywaith ac aeth unwaith yn gennad dros y Pab Innocent IV i Norwy.

Mae ei Chronica Majora yn olygiad a pharhad o gronicl Roger o Wendover. Ynddo ceir hanes tranc Gruffudd ap Llywelyn Fawr wrth geisio dianc o Dŵr Llundain. Cyhoeddodd sawl gwaith arall, gan gynnwys crynhoad o'r blynyddoedd 1200-1250 yn y Chronica Majora (y Historia Minora) a bywgraffiadau abadau.