Gwain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Anatomeg: Canrifoedd a manion using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Mae gwain dynes oddeutu 10[[cm]] o hir, a 25mm mewn diamedr (er fod llawer o amrywiaeth o berson i berson). Sylwer fod hyn yn fyrrach ac yn deneuach na'r [[pidyn|phidyn]] cyfartalog. Mae'r wain yn hynod o hyblyg, sy'n galluogi [[genedigaeth]] a [[cyfathrach rywiol|chyfathrach rywiol]]. Mae'n cysylltu gyda'r fwlfa ar y tu allan, a [[ceg y groth|cheg y groth]] ar y tu fewn. Pan fo dynes yn sefyll mae'r fagina a'r [[croth|groth]] yn ffurfio [[ongl]] o tua 45°. Lleolir agoriad y wain yn rhan ôl y fwlfa, islaw'r [[clitoris]] ac agoriad yr [[wrethra]]. Tu allan i'r wain, mae'r [[labia]] a churn frasderog a elwir [[Mons Veneris|Mwnt Gwener]]. Cochbinc yw lliw'r wain, yn debyg i [[pilen mwcws|bilenni mwcws]] mewnol eraill megis tu fewn y geg.
 
Mae'r [[chwarennau Bartholin]] a lleolir yn daunau ben y wain yn gwlychu neu'n iro'r wain rhyw ychydig, ac mae rhywfaint o hylif yn croesi'r mur faginaidd yn ogystal (er nad oes chwarennau arno).
[[Delwedd:Landing strip pubic hair pattern LQ.jpg|bawd|Gwain gyda rhan o'r [[cedor]] wedi'i siafio]]