Brwydr Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.5.2) (robot yn newid: tr:Fransa Seferi
B teipo
Llinell 2:
Goresgyniad [[Ffrainc]], [[yr Iseldiroedd]], [[Gwlad Belg]], a [[Lwcsembwrg]] gan luoedd [[yr Almaen]] yn [[yr Ail Ryfel Byd]] oedd '''Brwydr Ffrainc'''. Dechreuodd ar 10 Mai 1940 a daeth â therfyn i'r [[Rhyfel Ffug]]. Bu dwy brif ymgyrch i'r frwydr. Yn yr ymgyrch gyntaf, Achos Melyn (''Fall Gelb''), symudodd lluoedd yr Almaen trwy'r [[Ardennes]], i ynysu ac amgylchynu lluoedd [[Cynghreiriaid yr Ail Ryfel Byd|y Cynghreiriaid]] yng Ngwlad Belg. Yn ystod y brwydro, achubwyd [[Byddin Alldeithiol Brydeinig (yr Ail Ryfel Byd)|y Fyddin Alldeithiol Brydeinig]] (BEF) a nifer o filwyr Ffrengig o [[Brwydr Dunkirk|Dunkirk]] yn [[Ymgyrch Dynamo]].
 
Yn yr ail ymgyrch, Achos Coch (''Fall Rot''), o 5 Mehefin ymlaen, [[ystlysu (tacteg filwrol)|gorystlysodd]] lluoedd Almaenig [[Llinell Maginot]] a symudasant ymhell i mewn i diriogaeth Ffrainc. Gwnaed datganiad rhyfel gan [[yr Eidal]] yn erbyn Ffrainc ar 10 Mehefin a symudodd llywodraeth Ffrainc i ddinas [[Bordeaux]]. Meddiannwyd y brifddinas [[Paris]] ar 14 Mehefin. Tridiau'n ddiweddarach datganodd [[Philippe Pétain]] y byddai Ffrainc yn gofyn am gadoediad. Ar 22 Mehefin, arwyddodd Ffrainc a'r Almaen gadoediad, a ddaeth i rym ar 1525 Mehefin. Roedd yr ymgyrch yn fuddugoliaeth hynod i [[Pwerau Axis yr Ail Ryfel Byd|Bwerau'r ''Axis'']].
 
Rhannodd Ffrainc yn [[Meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd|rhanbarth a feddiannwyd gan yr Almaen]] yn y gogledd a'r gorllewin a [[Meddiannaeth Ffrainc gan yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd|rhanbarth bach a feddiannwyd gan yr Eidal]] yn y de ddwyrain, a rhanbarth na chafodd ei feddiannu, y ''[[zone libre]]'', yn y de. Gweinyddodd ôl-wladwriaeth [[Llywodraeth Vichy]] y tri rhanbarth hyn yn ôl termau'r cadoediad. Yn Nhachwedd 1942, meddiannodd lluoedd yr ''Axis'' y ''zone libre'' yn ogystal, a bu Ffrainc fetropolitanaidd dan feddiannaeth yr ''Axis'' nes [[Glaniadau Normandi|glanio'r Cynghreiriaid]] ym 1944. Arhosodd yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg dan feddiannaeth yr Almaen tan 1944 a 1945.