Geni'r Iesu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dolen a dileu gwagle
BDim crynodeb golygu
Llinell 10:
 
==Dadansoddiad hanesyddol==
Y dybiaeth draddodiadol i Gristnogion oedd mai [[Gair Duw]] oedd hanes Iesu Grist yn yr Efengylau, ac felly bod hanes y Geni fel y caiff ei adrodd yn y [[Testament Newydd]] yn hanesyddol ffeithiol gywir. I ysgolheigion cyfoes, fodd bynnag, mae'r hanes fel y'i cofnodwyd gan Mathew a Luc yn destun cryn drafodaeth. Yn un peth, noda rhai nad yw'r hanes yn y ddau Efengyl yn cyd-fynd â'i gilydd, ac mae rhai ysgolheigion o'r farn nad oes sail hanesyddol i lawer o'r straeon.<ref name="Matthew' page 47">''The Gospel of Matthew'' gan Daniel J. Harrington 1991 ISBN 0814658032 tudalen 47</ref><ref name=Corley>Jeremy Corley ''New Perspectives on the Nativity'', Continuum International Publishing Group, 2009 tudalen 22.</ref> I lawer o ysgolheigion, dogfennau diwynyddol yw'r Efengylau, ac felly ni fyddai pwyslais yr awduron ar gywirdeb a threfn hanesyddol y straeon.<ref name=Wiarda75 >''Interpreting Gospel Narratives: Scenes, People, and Theology'' gan Timothy Wiarda 2010 ISBN 0805448438 tudalennau 75-78</ref><ref name="Jesus page 89">''Jesus, the Christ: Contemporary Perspectives'' gan Brennan R. Hill 2004 ISBN 1585953032 tudalen 89</ref><ref name="Recovering Jesus page 111">''Recovering Jesus: the witness of the New Testament'' Thomas R. Yoder Neufeld 2007 ISBN 1587432021 tudalen 111</ref> Fodd bynnag, mae rhai ysgolheigion Cristnogol yn dadlau bod y safbwynt Cristnogol traddodiadol yn bosibl, bod yr hanes yn yr Efengylau yn hanesyddol gywir ac nad yw Luc a Mathew yn gwrth-ddweud ei gilydd.<ref>Mark D. Roberts ''Can We Trust the Gospels?: Investigating the Reliability of Matthew, Mark, Luke and John'' Good News Publishers, 2007 tudalen 102</ref>.
 
== Celf a cherddoriaeth ==