William Bingley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
mater o farn a chwaeth bersonol
Sebleouf (sgwrs | cyfraniadau)
B WPCleaner v1.14 - Headlines start with three "=" - en dash or em dash (Corrigé avec Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia)
Llinell 1:
Naturiaethwr ac awdur llyfrau taith [[Saeson|Seisnig]] oedd '''William Bingley''' ([[1774]]–[[1823]]). Ymddiddorai mewn cerddoriaeth yn ogystal. Cyhoeddodd ddau lyfr am ei deithiau yng [[Gogledd Cymru|Ngogledd Cymru]] ar ddiwedd y [[18fed ganrif|18fed]] a dechrau'r [[19eg ganrif]].
 
Myfyriwr ifanc ar ei wyliau oedd Bingley pan deithiodd o gwmpas gogledd Cymru y tro cyntaf. Roedd hynny yn y flwyddyn [[1798]], pan lesteirwyd pobl rhag mynd ar y ''Grand Tour'' ffasiynol arferol gan yr helyntion ar gyfandir Ewrop, yn arbennig yn Ffrainc oherwydd y [[Chwyldro Ffrengig]]. Ac eithrio [[Thomas Pennant]], Bingley yw un o'r teithwyr cynharaf i gofnodi ei brofiad o deithio yng Nghymru; arfer a ddaeth yn ffasiynol iawn dros y degawdau olynol a welodd gyhoeddi rhai dwsinau o lyfrau taith gan y twristiaid cynnar hyn. Ychydig o werth sydd i'r rhan fwyaf o'r cyfrolau, ond mae llyfr Binlgey, ''Tour round North Wales'' ([[1800]]), yn wahanol. Mae pennodau fel ei daith i ben [[Yr Wyddfa]] i chwilio am blanhigion prin yn sefyll allan. Mae ganddo hanesion am leoedd a phobl hefyd, wedi'i sgwennu mewn arddull bywiog gan rywun a ymddiddorai yn y Cymry a'u traddodiadau.
Llinell 5:
Cyhoedodd ail gyfrol, ''North Wales Delineated from Two Excursions'', yn [[1804]]. Diddorol hefyd yw ei gyfrol arloesol ar gerddoriaeth Cymru, ''Sixty of the Most Admired Welsh Airs''.
 
===Llyfryddiaeth===
* ''Tour round North Wales'' ([[1800]])
* ''North Wales Delineated from Two Excursions'' ([[1804]])