John Roberts Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Newyddiadwr a darlledwr oedd '''John Roberts Williams''' ([[24 Mawrth]] [[1914]] - [[27 Hydref]] [[2004]]). Roedd yn frodor o [[Llangybi]] yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir Pwllheli a Choleg y Brifysgol, Bangor. Fel awdur roedd yn adnabyddus dan y ffugenw '''John Aelod Jones'''.
 
Dechreuodd ei yrfa newyddiadurol gyda'r ''[[Yr Herald|Herald]]'' yng [[Caernarfon|Nghaernarfon]]. Daeth yn olygydd ''[[Y Cymro]]'' yn [[1942]]. Bu'n gyfrifol am gynyddu y gwerthiant yn sylweddol i 27,000 trwy boblogeiddio'r papur.