Cartŵn gwleidyddol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B gwa
B tr
Llinell 1:
[[Delwedd:Cartŵn bARN.png|bawd|de|300px|Cartŵn dychanol a ymddangosodd yn y cylchgrawn [[Barn (cylchgrawn)|Barn]], sy'n dychanu penderfyniad [[George W. Bush]] a [[Tony Blair]] i [[Rhyfel Irac|oresgyn Irac]], a'r posibilrwydd o oresgyn [[Iran]] yn y dyfodol. Mae hefyd yn portreadu Bush fel [[cowboi]] sy'n arwain Blair mewn ffordd gwasaiddwasaidd.]]
[[Cartŵn]] sy'n cyfleu neges [[gwleidyddiaeth|wleidyddol]] neu gymdeithasol, gan amlaf parthed materion cyfoes a phobl yn y newyddion, yw '''cartŵn gwleidyddol''', '''cartŵn golygyddol''', neu '''gartŵn dychanol'''. Gan amlaf ymddangosant ar [[tudalen olygyddol|dudalen olygyddol]] [[papur newydd]], ond yn hanesyddol bu gyfryngau i gartwnau gwleidyddol mewn [[pamffled]]i, [[cylchgrawn|cylchgronau]], [[llyfr]]au, ac heddiw ar [[y rhyngrwyd]]. Maent yn aml yn gwneud defnydd o [[trosiad|drosiadau]] gweledol a [[gwawdlun]]iau. Mewn gwledydd democrataidd, ystyrid y mwyafrif o gartwnau gwleidyddol yn rhan o ddisgwrs sifil sydd yn [[rhyddid mynegiant|mynegi barn]] y cartwnydd (neu ei gyflogwr) ond weithiau cyhuddir cartwnau o fod yn enghreifftiau o [[propaganda|bropaganda]] cryfach. O bryd i'w gilydd mae cartwnau wedi achosi cryn anghydfod, er enghraifft [[dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten|dadl cartwnau Muhammad ''Jyllands-Posten'']].