Sbectrwm: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
dol
Llinell 1:
[[Delwedd:Spectre detail.png|250px|de|bawd|Sbectrwm gweladwy]]
 
Enw ar yr amrwyiaeth o [[lliw|liwiau]] sy'n bresennol mewn rhai ffynhonnell [[golau]] ydy '''sbectrwm''' (lluosog: sbectra). Mae'r sbectrwm yn ddod yn amlwg pan wahanir lliwiau (amleddau)'r golau gan ddyfais megis [[prism]]. Mae ''golau gwyn'' (megis golau'r haul) yn gymysgedd o bob liw, felly mae ganddo sbectrwm ''di-fwlch'' neu ''gyfan''. Ond mae gan rai ffynonellau golau eraill, megis [[lamp sodiwm|lampau sodiwm]] neu [[LED]], sbectrwm rhannol sy'n cynnwys dim ond rhai amleddau o olau gyda bylchau rhyngddynt.
 
Mae ''sbectrwm allyriant'' rhai sylwedd yn cyfeirio at sbectrwm y golau a fyddai o'n eu bwrw allan, yn arbennig pan gaiff ei boethi, ac mae ei ''sbectrwm amsugniad'' yn cyfeirio at y lliwiau sy'n gallu cael ei amsugno ganddo. Oherwydd bod sbectra wahanol gan sylweddau gwahanol, ceir darganfod pa sylweddau sy'n bresennol mewn sampl cemegol trwy edrych ar ei sbectrwm; mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer pethau pell, megis yn seryddiaeth, na allent cael eu mesur yn uniongyrchol. ''Sbectrosgopeg'' ydy enw'r maes cyffredinol hwn o wyddoniaeth.