Aneurin Barnard: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
actor a aned yn 1987
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Actor sgrin a sain o Gymru yw '''Aneurin Barnard''' (ganed 8 Mai 1987). Mae Aneurin yn siarad Cymraeg. Daw o Fro Ogwr ac mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyf...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 11:54, 2 Ionawr 2013
Actor sgrin a sain o Gymru yw Aneurin Barnard (ganed 8 Mai 1987).
Mae Aneurin yn siarad Cymraeg. Daw o Fro Ogwr ac mae'n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llanhari. Cafodd ei hyfforddi fel actor yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Mae hefyd yn ganwr sydd wedi recordio nifer o ganeuon Cymraeg.
Aneurin oedd yn chwarae un o'r brif rannau (Melchior) yng nghast gwreiddiol cynhyrchiad Llundain o Spring Awakening yn 2009. Enillodd Wobr Laurence Olivier am yr actor gorau mewn sioe gerdd am ei waith[1]. Serennodd hefyd yn ffilm gerddorol annibynnol Hunky Dory ochr yn ochr â Minnie Driver yn 2012. Mae hefyd wedi chwarae nifer o rannau llai mewn dramâu teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys Y Pris ar S4C.
Ffynonellau
- ↑ Gwobrau Olivier yn dod i Gymru. Golwg360 (22 Mawrth 2010).