Jac y jwc
Vincent van Gogh
golyguCroeso. A dweud y gwir, roedd eich erthygl chi yn well na'r un oedd yno eisoes. Rhion 06:24, 20 Chwefror 2007 (UTC)
- Na phoener gyfaill. Mae'r erthygl yn edrych yn well erbyn hyn. Gobeithio eich weld ar y wicipedia eto --Llygad Ebrill 10:12, 20 Chwefror 2007 (UTC)
Rhyngwladoli v's Rhyngwladoleiddio
golyguS'mai JyJ. Sylwais dy fod wedi addasu'r erthygl fel ei fod yn cael ei gyfeirio at dudalen newydd gyda Rhyngwladoli. Doeddwn i ddim yn siwr o'm ffeithiau pan greuais yr erthygl gwreiddiol, dim ond meddwl bod 'rhyngwladoli' yn swnio'n debyg i fersiwn Cymraeg o Globalisation.
O wneud ymchwiliad google, mae'n debyg bod 'Rhyngwladoli' yn cael ei ddefnyddio amlaf. Mae'n cael ei ddefnyddio gan grŵp cyfieithu GNOME ac ar flog uned Technoleg Iaith Canolfan Bedwyr, ond hefyd mae'n cael ei ddefnyddio gan ambell gorff gyhoeddus i ddrafod masnach rhyngwladol. Yn rhyfedd ddigon, mae 'Rhyngwladoleiddio' wedyn yn cael ei ddefnyddio mewn erthygl am Lleoleiddio yn adran Technoleg a Pheirianeg Iaith Canolfan Bedwyr. Dwi ddim yn siwr pa un yw'r gorau i'w ddefnyddio.--Ben Bore 16:29, 4 Hydref 2007 (UTC)
- Diolch am adael dy neges. Does gyda fi ddim teimladau cryf am y peth a dwi'n hapus i'w adael fel y mae, yn enwedig os yw termcymru'n ei ddefnyddio a bod ailgyfeirio o'r ddau derm.--Ben Bore 10:05, 5 Hydref 2007 (UTC)
Yr wyddor Gymraeg
golyguOes awydd arnoch chi i fynd ati i recordio'r wyddor Cymraeg a'i roi ar Wicifryngau? Mae'r categori Commons:Category:Welsh pronunciation yn tyfu'n ara' deg. Byddai'n dda petaech yn gallu gwneud nodyn o'r ardal yr ydych yn hanu ohono ar y ffeil sain a rhoi'r rhagddodiad Cy- yn y teitl. Mae enghraifft o recordiad o'r wyddor Almaeneg ar en:German alphabet a'r wyddor yn iaith Gwlad yr Iâ ar en:Icelandic alphabet.
Fe fyddai'n neis iawn petai rhywun o'r gogledd-ddwyrain yn gallu recordio'r 'l' dywyll hefyd - does dim gobaith gen i fynd ati i greu unrhyw sain sy'n perthyn i'r Gogledd! - gadawaf gais am hyn ar y Caffi cyn bo hir.
Hefyd, rwyf wedi bod yn gosod ffeiliau sain ar gyfer enwau pobl hefyd ar Wicifryngau - yn enwedig pobl sy'n hannu o Geredigion. Oes awydd gennych i fynd ati i ychwanegu rhagor? Ar gyfer Wiciau mewn ieithoedd eraill y bydd y rhain o ddefnydd fwyaf. Rwyf hefyd wedi recordio'r enw 'Cymraeg' gydag acen Ceredigion yn barod ar gyfer erthygl y tafodieithoedd. Gwnes gamgymeriad yn anffodus trwy roi to yn y teitl - wedi gwneud gwelais y canllaw yn cynghori peidio â defnyddio acenion oherwydd ei bod yn ei gwneud yn anodd i bobl i ddefnyddio'r ffeiliau ar wiciau mewn ieithoedd eraill. Lloffiwr 21:06, 4 Gorffennaf 2008 (UTC)
- Diolch am dy neges - gwelaf ein bod ill dau yn o brysur - sdim ots o gwbl am yr oedi cyn ateb. Mae sylw digon teg gen ti am yr hen wyddor - erbyn meddwl dylai fod y ffordd cyfoes o ddweud yr wyddor yn yr erthygl yn ogystal â'r hen un. Byddai'n gret cael gafael ar rywun sy'n gwybod sut i ddweud yr wyddor yn yr hen ffordd, a byddai'n dda ei gael ar lafar yn y ffordd newydd hefyd - gadawaf nodyn ar y dudalen sgwrs am hyn. Blwyddyn newydd dda (hwyr) i ti. Lloffiwr 22:19, 18 Ionawr 2009 (UTC)
Newid enw erthygl
golyguMae'n arferol symud tudalen pan fo enw erthygl yn anghywir yn lle creu tudalen newydd, a hynny am sawl rheswm. Yn achos Rhestr enillwyr Pencampwriaeth Gyrwyr y Byd Fformiwla Un roedd gennym dwy "erthygl" cyn belled a mae'r gronfa ddata yn y cwestiwn. Hefyd doedd hanes (cyfraniadau) yr erthygl wreiddiol ddim ar gael gyda'r ail dudalen. Dyna pam wnes i ddileu'r un newydd ac adfer yr hen erthygl sydd wedi'i symud rwan i'r teitl cywir. Diolch am y gwaith golygu arall. Hwyl Fawr i ti dros y Dolig! Anatiomaros 23:21, 23 Rhagfyr 2008 (UTC)
Spring Awakening
golyguMond gadael i ti wybod er cwrteisi mod i wedi 'hollti' dy erthygl Spring Awakening gan mod i'n teimlo bod y tri (y ddrama, y sioe wreiddiol a'r cynhyrchiad Cymraeg) yn haeddu erthygl. Dw i wedi ceisio newid cyn lleied a phosib ar beth sgwenaist ti'n wreiddiol. Mantais hyn yw bod modd gosod yr erthygl mewn categoriau pendant (e.e. Sioe gerdd 2011) a bod mwy o ddolenni'n pwyntio tuag ato o ethyglau eraill. Mae gwiri angne mwy o erthyglau am y theatr Gymraeg yma, felly diolch am hwn. Sdim hyd yn oed rhestr gyflawn o holl gynhyrchiadau Theatr Genedlaethol Cymru ar eu herthygl!--Ben Bore (sgwrs) 10:35, 4 Ionawr 2013 (UTC)
- Bues yn fwriadol ddiog a gadael y tabl fel yr oedd. Yn ddelfrydol dylai ond cynnwys cast y cynhyrchiadau Cymraeg a dyn a ddylwn i wneud. Ond does dim o'i le ar gynnwys colofn ychwnaegol ar gyfer y cast gwreiddiol, felly croeso i ti ei adfer a'i olygu os dymuna.--Ben Bore (sgwrs) 13:20, 4 Ionawr 2013 (UTC)
- Ti'n hollol iawn - sdim byd gwaeth na rhywun yn gwneud hanner jobyn! Wedi ei newid rwan.--Ben Bore (sgwrs) 13:30, 4 Ionawr 2013 (UTC)
- Mae côd yr hen dabl cyn i mi addasu i'w gael yma os yw'n arbed rhywfaint ar y gwaith (o bosib ddim).--Ben Bore (sgwrs) 13:36, 4 Ionawr 2013 (UTC)
- Ti'n hollol iawn - sdim byd gwaeth na rhywun yn gwneud hanner jobyn! Wedi ei newid rwan.--Ben Bore (sgwrs) 13:30, 4 Ionawr 2013 (UTC)
Waun Ddyfal a'r Mynydd Bychan
golyguCymer olwg ar y Sgwrs ar y dudalen hon, os gweli di'n dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:30, 11 Gorffennaf 2013 (UTC)