Fernando Torres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: so:Fernando Torres
Llinell 42:
 
====2008-2009====
Nid oedd hon yn flwyddyn mor llwyddiannus i Torres yn bersonol, gan iddo ddioddef sawl anaf ar hyd y flwyddyn. Sgoriodd y gôl fuddugol yn y gêm gyntaf yn erbyn [[Sunderland A.F.C.|Sunderland]], ond ni sgoriodd wedyn tan iddo rwydo ddwywaith yn erbyn [[Everton F.C.|Everton]] ar 27 o Fedi. Anafodd llinyn y gar wrth chwarae dros Sbaen, oedd yn golygu ei fod yn methu'r ddwy gêm yng [[Cynghrair y Pencampwyr UEFA|Nghynghrair y Pencampwyr UEFA]] yn erbyn ei hen glwb, Atlético. Enwebwyd ef ar gyfer [[Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn FIFA]] 2008, ond daeth yn drydydd i [[Cristiano Ronaldo]]. Daeth yn ôl i sgorio yng [[Cwpan yr FALloegr|Nghwpan yr FALloegr]] yn erbyn [[Preston North End F.C.|Preston North End]], ac wedyn sgoriodd ddwywaith yn y munudau olaf yn erbyn Chelsea i gadw gobeithion Lerpwl am ennill y gynghrair yn fyw.
 
Chwaraeodd yn erbyn [[Real Madrid]], prif elynion Atlético ym mis Mawrth yn y [[Stadiwm Bernabèu]], wrth i Lerpwl ennill 1-0 efo peniad [[Yossi Benayoun]]. Yn Anfield, sgoriodd Torres y gyntaf i Lerpwl mewn buddugoliaeth drom o 4-0, 5-0 dros y ddwy gêm. Yr wythnos wedyn, daeth Torres i ddod a'r sgôr yn gyfartal yn erbyn [[Manchester United F.C.|Manchester United]], a helpodd iddynt ennill o 4-1 yn [[Old Trafford]]. Enwebwyd ef yn Nhîm y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol. Sgoriodd ei 50fed gôl ym mhob cystadleuaeth i'r clwb yn erbyn Tottenham ar ddiwrnod olaf y tymor wrth i Lerpwl ddod yn 2il. Gorffennodd y tymor efo 17 gôl. Arwyddodd gytundeb newydd â'r clwb yn yr haf yn ei glymu i'r clwb tan 2014.
 
====2009-10====