Pêl-droediwr Sbaenaidd sy'n chwarae i Chelsea ac i dîm cenedlaethol Sbaen yw Fernando José Torres Sanz (ganwyd 20 Mawrth 1984). Dechreuodd ei yrfa hefo Atlético Madrid. Chwaraeodd dros y tîm cyntaf yn 2001 pan oedd yn 17 oed, ac erbyn ei adawiad yn 2007, sgoriodd 75 gôl mewn 174 ymddangosiad La Liga. Ymunodd â Lerpwl yn 2007 am daliad o £26.5 miliwn, sef record y clwb. Yn ei flwyddyn gyntaf, sgoriodd 33 gôl ym mhob cystadleuaeth, a 24 yn yr Uwchgynghrair Lloegr. Daeth Torres y chwaraewr cyflymaf i sgorio 50 gôl i'r clwb wrth sgorio yn erbyn Aston Villa ym mis Rhagfyr 2009. Mae e hefyd yn chwarae dros Sbaen, a ymddangosodd gyntaf yn erbyn Portiwgal yn 2003. Rhoddodd gymorth i Sbaen ennill Pencampwriaeth Ewrop Pêl-droed 2008, gyda Torres ei hun yn rhwydo'r gôl fuddugol. Enillodd Sbaen Gwpan y Byd 2010 yn ogystal, er i Torres beidio sgorio yn y gystadleuaeth.

Fernando Torres
Torres yn 2010
Manylion Personol
Enw llawn Fernando José Torres Sanz
Llysenw El Niño ("Y Plentyn")
Dyddiad geni (1984-03-20) 20 Mawrth 1984 (39 oed)
Man geni Fuenlabrada, Madrid, Baner Sbaen Sbaen
Taldra 1m 85
Manylion Clwb
Clwb Presennol Atlético Madrid
Rhif 19
Clybiau Iau
1995-2001 Atlético Madrid
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
2001–2007
2007–2011
2011–2015
2014–2015
2015–
2015–
Atlético Madrid
Lerpwl
Chelsea
Milan (benthyg)
Milan
Atlético Madrid (benthyg)
214 (82)
102 (65)
110 (20)
10 (1)
0 (0)
15 (1)
Tîm Cenedlaethol
2000
2001
2001
2001
2002
2002–2003
2003–
Sbaen o dan-15
Sbaen o dan-16
Sbaen o dan-17
Sbaen o dan-18
Sbaen o dan-19
Sbaen o dan-21
Sbaen
1 (0)
9 (11)
4 (1)
1 (1)
5 (6)
10 (3)
110 (38)

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
  diweddarwyd 29 Ebrill 2015.
2 Capiau tîm cenedlaethol a goliau
  diweddarwyd 29 Ebrill 2015.
* Ymddangosiadau

Gyrfa clwb golygu

Atlético Madrid golygu

Arwyddodd gontract proffesiynol efo Atlético ym 1999, a dechreuodd ymarfer efo'r tîm cyntaf ar gyfer y flwyddyn 2000-2001. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y tymor yn dda iddo wedi iddo gael anaf i'w goes, ac ni ymarferodd tan fis Rhagfyr. Wedi gwella o'r anaf, ymddangosodd am y tro cyntaf i Atlético ym mis Mai 2001 yn erbyn CD Leganés yn y Vicente Calderon. Wythnos yn ddiweddarach, sgoriodd ei gôl gyntaf dros y clwb yn erbyn Albacete, ond yn anffodus ni enillodd Atlético ddyrchafiad i La Liga. Yn 2001-2002, enillodd Atlético ddyrchafiad, gyda Torres yn sgorio chwe gwaith mewn 36 ymddangosiad. Roedd flwyddyn gyntaf Torres yn La Liga yn well, fodd bynnag, wrth sgorio 13 gwaith mewn 29 gêm. Yn ei ail flwyddyn, daeth yn gapten ieuengaf Atlético erioed, yn 19 oed. Sgoriodd 19 gwaith mewn 35 gêm y flwyddyn honno, gydag Atlético y gorffen yn 7fed, ac ymddangos yng Nghwpan Intertoto y flwyddyn wedyn. Chwaraeodd am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yn Ewrop yn erbyn OBK Beograd, gan sgorio dwywaith dros y ddwy gêm. Trechwyd Atlético yn y rownd nesaf gan Villarreal. Roedd yna straeon bod diddordeb yn ei brynu gan Chelsea, pencampwyr yr Uwchgynghrair Lloegr, ond dywedodd cadeirydd Atlético bod 'dim siawns' o'i arwyddo. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2006, dywedodd y cadeirydd bod y clwb yn barod i wrando ar gynigion amdano, a honnodd Torres bod Newcastle United wedi gwneud cynnig amdano.

Ni ddaeth unrhyw beth o hyn, ac fe aeth Torres ymlaen i sgorio 14 gôl yn y tymor 2006-07. Yn haf 2007, roedd y cyfryngau yn Lloegr yn dweud mai Torres oedd prif darged Rafael Benítez, rheolwr Lerpwl. Ychydig diweddarach, dywedwyd bod Atlético a Lerpwl wedi dod i gytundeb am bris Torres, sef tua £20 miliwn efo Luis Garcìa yn symud y ffordd arall. Ar 3 Gorffennaf, pasiodd Torres ei brawf meddygol, ac arwyddodd gytundeb am chwe blynedd. Ffarweliodd â chefnogwyr Atlético ar y 4 Gorffennaf, cyn hedfan i Loegr i gael ei gyflwyno fel chwaraewr Lerpwl.

Lerpwl golygu

2007-08 golygu

Ymddangosodd am y tro cyntaf i Lerpwl yn erbyn Aston Villa, mewn buddugoliaeth o 2-1 ar 11 Awst 2007. Dechreuodd am y tro cyntaf yn Anfield yn erbyn Chelsea, a sgorio yn y 16ed munud. Sgoriodd ei hat-tric gyntaf i Lerpwl yn y gêm gwpan yn erbyn Reading. Sgoriodd ei goliau gyntaf yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn erbyn Porto wrth i Lerpwl guro 4-1.

Sgoriodd hat-tric mewn dwy gêm gartref yn olynol: Middlesbrough, ac wedyn West Ham United, y chwaraewr Lerpwl cyntaf i wneud hyn ers Jack Balmer yn 1946. Yn Ebrill, sgoriodd ei 29fed gôl o'r tymor yn erbyn Arsenal yn rownd gogynderfynol, mwy na wnaeth hen chwaraewr Michael Owen erioed sgorio. Ar yr 11fed o Ebrill, cyhoeddwyd fod Torres ar y rhestr fer i ennill y PFA Players' Player of the Year Award, ac enwebwyd ef yn nhîm y flwyddyn honno. Ar y 4ydd o Ebrill, sgoriodd yn erbyn Manchester City, am yr wythfed gêm gartref yn olynol, yn dod yn unfaint â record Roger Hunt. Roedd arbenigwyr yn dweud bod ei gyd-weithrediad ef a Steven Gerrard yn bwysig iawn i lwyddiant Lerpwl y flwyddyn honno.

Diweddodd y tymor yn sgorio yn erbyn Tottenham Hotspur, efo 24 gôl yn y gynghrair a 33 ym mhob cystadleuaeth. Roedd ei goliau yn y gynghrair yn torri record Ruud van Nistelrooy am y nifer uchaf o goliau wedi sgorio gan berson tramor yn ei dymor cyntaf.

2008-2009 golygu

Nid oedd hon yn flwyddyn mor llwyddiannus i Torres yn bersonol, gan iddo ddioddef sawl anaf ar hyd y flwyddyn. Sgoriodd y gôl fuddugol yn y gêm gyntaf yn erbyn Sunderland, ond ni sgoriodd wedyn tan iddo rwydo ddwywaith yn erbyn Everton ar 27 o Fedi. Anafodd llinyn y gar wrth chwarae dros Sbaen, oedd yn golygu ei fod yn methu'r ddwy gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA yn erbyn ei hen glwb, Atlético. Enwebwyd ef ar gyfer Chwaraewr Gorau'r Flwyddyn FIFA 2008, ond daeth yn drydydd i Cristiano Ronaldo. Daeth yn ôl i sgorio yng Nghwpan Lloegr yn erbyn Preston North End, ac wedyn sgoriodd ddwywaith yn y munudau olaf yn erbyn Chelsea i gadw gobeithion Lerpwl am ennill y gynghrair yn fyw.

Chwaraeodd yn erbyn Real Madrid, prif elynion Atlético ym mis Mawrth yn y Stadiwm Bernabèu, wrth i Lerpwl ennill 1-0 efo peniad Yossi Benayoun. Yn Anfield, sgoriodd Torres y gyntaf i Lerpwl mewn buddugoliaeth drom o 4-0, 5-0 dros y ddwy gêm. Yr wythnos wedyn, daeth Torres i ddod a'r sgôr yn gyfartal yn erbyn Manchester United, a helpodd iddynt ennill o 4-1 yn Old Trafford. Enwebwyd ef yn Nhîm y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol. Sgoriodd ei 50fed gôl ym mhob cystadleuaeth i'r clwb yn erbyn Tottenham ar ddiwrnod olaf y tymor wrth i Lerpwl ddod yn 2il. Gorffennodd y tymor efo 17 gôl. Arwyddodd gytundeb newydd â'r clwb yn yr haf yn ei glymu i'r clwb tan 2014.

2009-10 golygu

Roedd hwn yn flwyddyn drychinebus i'r Cochion, efo dyfodol Torres yn cael ei gwestiynu yn wythnosol. Dechreuodd y gwlyddyn yn dda, a sgorio hatric yn erbyn Hull City, dwywaith yn erbyn West Ham United ac unwaith yn erbyn Aston Villa a Bolton Wanderers. Sgoriodd y gôl gyntaf yn erbyn Manchester United mewn buddugoliaeth o 2-0, a sgoriodd ei 50fed gôl gynghrair yn erbyn Aston Villa yn y funud olaf mewn buddugoliaeth o 1-0 yn Rhagfyr 2009, y chwaraewr cyflymaf yn hanes Lerpwl. Roedd Lerpwl wedi mynd allan o Gynghrair y Pencampwyr UEFA, Cwpan yr FA, a'r Gwpan Carling, ac roeddynt yn ymdrechu i orffen yn 4ydd. Yn anffodus, methodd diwedd y flwyddyn yn dilyn anfaf i'w ben-glin ar ôl sgorio ddwywaith yn erbyn Benfica yn y Gynghrair Europa, a daeth Lerpwl yn 7fed yn y gynghrair, ac o ganlyniad fe ddiswyddwyd Rafael Benítez. Sgoriodd Torres 22 gôl mewn dim ond 32 ymddangosiad y flwyddyn yna.

2010-11 golygu

Roedd misoedd o sôn bod Torres am adael i fynd i ymuno â Manchester City neu Chelsea, ond wedi i Roy Hodgson gael ei benodi fel rheolwr newydd Lerpwl, dywedodd Torres ei fod am aros gyda'r clwb am y dyfodol agos. Sgoriodd ei gôl gyntaf o'r flwyddyn yn erbyn West Bromwich Albion o flaen y Kop.

Gyrfa ryngwladol golygu

Enillodd ei gap gyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Sbaen ar y 6ed o Fedi yn erbyn Portiwgal. Daeth ei gôl gyntaf y flwyddyn wedyn yn erbyn Yr Eidal, ac o ganlyniad, dewiswyd ef yng ngharfan Sbaen ar gyfer Ewro 2004. Daeth ymlaen fel eilydd yn y ddwy gêm grŵp gyntaf, ond dechreuodd y trydydd, yn erbyn Portiwgal, a oedd yn penderfynu pa wlad fuasai'n mynd i'r rownd nesaf. Er ymdrechion gorau Fernando, collodd Sbaen 1-0, a tua diwedd y gêm, tarodd Torres y postyn.

Sgoriodd 7 gwaith mewn 11 ymddangosiad wrth i Sbaen ymdrechu i gyrraedd Cwpan y Byd Pêl-droed 2006, gan gynnwys ei hatric rhyngwladol gyntaf yn erbyn San Marino. Sgoriodd ei gôl gyntaf yng Nghwpan y Byd yn ei gêm gyntaf yn erbyn Wcrain, mewn buddugoliaeth o 4-0. Sgoriodd ddwywaith yn y gêm wedyn yn erbyn Tiwnisia. Cafodd ei orffwys yn y gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Sawdi Arabia, ond daeth yn ôl yn erbyn Ffrainc, lle collodd Sbaen 1-3. Cafodd ei ddewis i Ewro 2008, a sgoriodd yn yr ail gêm yn erbyn Sweden. Ni sgoriodd eto tan y gêm derfynol yn erbyn Yr Almaen, a chafodd ei enwi'n 'Seren y Gêm' ar y diwedd wrth i Sbaen ennill 1-0.

Enillodd ei 60ain cap yn erbyn Twrci ym mis Mai 2009, y chwaraewr ieuengaf i wneud hyn dros Sbaen. Sgoriodd hatric mewn 17 munud yn erbyn Seland Newydd yng Nghwpan cydffederasiynau, ond trydydd daeth Sbaen yn y diwedd. Chwaraeodd yn y gemau grŵp yng Nghwpan y Byd 2010 yn erbyn Y Swistir, Hondwras a Chile. Cafodd ei feirniadu am ei berfformiadau gwael yn y gemau agoriadol, ond cafodd gefnogaeth gan y rheolwr, Vicente del Bosque. Daeth ymlaen yn yr amser ychwanegol yn y rownd derfynol wrth i Sbaen drechu Yr Iseldiroedd 1-0, yn dod yn Bencampwyr y Byd am y tro cyntaf. Sgoriodd ddwywaith yn y gêm yn erbyn Liechtenstein yn y gemau i fynd i Ewro 2012. Hyd at 13 Medi 2010, mae wedi sgorio 26 gôl mewn 81 ymddangosiad.

Bywyd personol golygu

Mae Torres wedi bod mewn perthynas efo Olalla Domínguez Liste ers 2001, a phriododd Torres hi yn 2009. Daeth yn dad am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2009, efo Olalla yn geni merch o'r enw Nora.

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolenni allanol golygu

Chelsea F.C. - Sgwad Presennol

1 Čech2 Ivanović3 Cole4 David Luiz5 Essien6 Romeu7 Ramires8 Lampard9 Torres10 Mata11 Drogba12 Mikel15 Malouda16 Meireles17 Bosingwa18 Lukaku19 Ferreira20 McEachran21 Kalou22 Turnbull23 Sturridge26 Terry33 Alex34 Bertrand39 Anelka40 HilárioRheolwr: Villas-Boas