Gwenwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Toxic.png|dde|200px|bawd|Symbol rhyngwladol gwenwyn.]]
[[Sylwedd cemegol]] yw '''gwenwyn''' sy'n achosi aflonyddwch i [[organeb]]au, trwy niweidio iechyd neu ladd pan caiff ei lyncu, ei [[anadlu]], neu ei amsugno.<ref name=Mosby/> [[Tocsin]] yw gwenwyn naturiol, a [[tocsicant]] yw gwenwyn a greir gan fodau dynol.
Yn y cyd-destun [[Bioleg]], mae '''gwenwyn''' yn sylwedd sy'n gallu achosi aflonyddwch i organebau.
 
Defnyddir y term "gwenwyn" i ddisgrifio sylwedd sy'n achosi niwed mewn maint cymharol bychan, ond yn dechnegol mae'n amhosib i ddweud bod sylwedd yn gwbl wenwynig neu'n anwenwynig. Mae gan bob sylwedd lefelau gwahanol o [[gwenwyndra|wenwyndra]], ac yn ôl rhai [[tocsicoleg]]wyr mae pob sylwedd yn "wenwynig", yn dibynnu ar y [[dos]].<ref name=Mosby/> Oherwydd hyn, y diffiniad ymarferol o wenwyn yw sylwedd sydd yn peri [[perygl]] realistig.
 
Yn glinigol rhennir gwenwynau yn ddau gategori: gwenwynau sy'n ymateb i [[triniaeth feddygol|driniaethau]] neu [[gwrthwenwyn|wrthwenwynau]], a gwenwynau sydd heb driniaeth benodol. Mae datblygu triniaethau yn erbyn gwenwynau yn tynnu sylw llawer o ymchwil meddygol, ond ychydig yw'r gwrthwenwynau effeithiol sydd ar gael, er bod camau mawr wedi eu cyrraedd mewn maes [[gwrth-docsin]]au.<ref name=Mosby>''Mosby's Medical Dictionary'' (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 1472. ISBN 978-0323052900</ref>
 
Mae bodau dynol wedi defnyddio gwenwyn ers talwm yn fwriadol i ladd ei gilydd ac i [[hunanladdiad|ladd eu hunain]]. Mae gwenwyno'n anfwriadol yn peri risg [[iechyd cyhoeddus]] ar draws y byd.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.who.int/ipcs/poisons/en/ |teitl=Poisoning Prevention and Management |cyhoeddwr=[[Sefydliad Iechyd y Byd]] |dyddiadcyrchiad=20 Ebrill 2013 }}</ref> Gall wenwyno'n anfwriadol gynnwys ymosodiad gan anifail gwenwynig megis [[brathiad neidr]] neu [[pigiad sgorpion|bigiad sgorpion]], [[gorddos]] o gyffuriau, neu drychineb ddiwydiannol megis [[trychineb Bhopal]].
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Gwenwyn| ]]
Llinell 6 ⟶ 15:
[[Categori:Peryglon]]
[[Categori:Sylweddau cemegol]]
{{eginyn cemeg}}
{{eginyn bioleg}}