Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 14:
Cynigiaf ein bod yn mabwysiadu fersiwn Geiriadur yr Academi, a ble nad oes ganddo gyfieithiad, ein bod yn derbyn fersiwn yr Atlas Cymraeg Newydd. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000|sgwrs]]) 04:33, 17 Mehefin 2013 (UTC)
:Rwy'n eilio'r cynnig (gan gymryd mai hyn yw'r drefn arferol).--[[Defnyddiwr:Cymrodor|Cymrodor]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Cymrodor|sgwrs]]) 23:17, 20 Mehefin 2013 (UTC)
 
::Dwi'n derbyn y cynnig o ran egwyddor ond gan nodi hefyd:
:::1. Mae hyn yn mynd i olygu coblyn o lot o waith nid yn unig ar dudalennau ond hefyd ar y categoriau. Dwi'n gwybod fod gennym ni fot Llywelyn i wneud y gwaith ond bydd rhaid gwiro pob dim yn ofalus iawn: mae'r categoriau gwlad wedi cymryd oes i greu a threfnu a dwi ddim yn siwr gall bot wneud y cyfan yn llwyddianus felly bydd rhaid gwneud yn cam ar y tro a chadw golwg arno. Dwi'n awgrymu ein bod yn gwneud y gwaith fesul gwlad, yn nhrefn yr wyddor. (Dwi'n dipyn o "anorac categori", fel y gwyddoch mae'n siwr - dyna pam dwi'n pryderu am unrhyw waith mawr fel hyn!).
:::2. Mae sawl gwlad sy ddim yng Ngeiriadur yr Academi, fel mae Llywelyn yn nodi. Dwi ddim yn gweld unrhyw beth o'i le mewn mabwysiadu ffurfiau Cymraeg yn achos rhai sy'n Cymreigiadau naturiol di-lol, e.e. Brwnei.
::Dwi o blaid hyn felly, ac yn barod i helpu, ond byddwch yn ofalus gyda'r bot, ''plîs''! [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros|sgwrs]]) 23:55, 20 Mehefin 2013 (UTC)
Nôl i'r dudalen "Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg".