Sgwrs:Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg

Latest comment: 8 mis yn ôl by Llywelyn2000 in topic Y Weriniaeth Tsiec

Y llinynnau mesur a ddefnyddir gennym wrth ddethol y sillafiad Cymraeg yw:

  1. Derbyn sillafiad Geiriadur yr Academi
  2. Os nad yw'r gair yng Ngeiriadur yr Academi yna defnyddio'r ffurf ffonetig

Polisi enwau gwledydd ar Wicipedia golygu

"Sylwer mai fersiwn Yr Atlas Gymraeg Newydd rydym yn ei defnyddio ar Wicipedia" Diolch byth nad yw hwn yn gyfan gwbl wir. Mae nifer o enwau Cymraeg yr Atlas Cymraeg Newydd yn cynnwys llythrennau na sy'n bodoli yn y Gymraeg. Sut felly gall yr enwau hyn cael eu hystyried yn Gymraeg? Saesneg yw, er enghraifft, 'Azerbaijan' a 'Kenya'; y Gymraeg yw 'Aserbaijan' (neu 'Aserbaisian' hyd yn oed) a 'Cenia', fel nodir gan Eiriadur yr Academi. Awgrymu ydwyf felly bod Wicipedia yn defnyddio fersiynau Geiriadur yr Academi yn hytrach na'r Atlas Gymraeg Newydd. --Cymrodor (sgwrs) 02:44, 9 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Yn bersonol, does dim ots gen i pa un a ddefnyddiwn, cyn belled a'n bod yn glynnu at un, ac felly'n gyson. Mi fasa'n dipyn o waith newid yr holl enwau, ond fe all BOT-Twm Crys fod o ryw gymorth cyn belled a bod un neu ddau'n cadw llygad ar y newidiadau. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:12, 10 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Cytuno'n fawr bod eisiau bod yn gyson. Mae'r ieithoedd yma yn ffurf Geiriadur yr Academi, mae'n ymddangos. --Cymrodor (sgwrs) 10:43, 15 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Dyma rai o'r sgyrsiau a fu ar Wicipedia am y pwnc hwn: Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y BydSgwrs:Gwledydd y bydSgwrs:CoreaWicipedia:Y Caffi/archif/12#Safoni termau Wici. Fel y dywed Cymrodor, mae'r arfer ar Wicipedia yn amrywio ac nid oes polisi pendant gennym (er gwaethaf honiad yr erthygl hon a Wicipedia:Arddull#Enwau lleoedd taw Yr Atlas Gymraeg Newydd yr ydym yn ei dilyn). Yn bersonol, mae'n well gen i Gymreigiadau Geiriadur yr Academi. Er bod Yr Atlas Gymraeg Newydd yn cael ei defnyddio mewn ysgolion, byddwn i'n gwingo os oedd rhaid i ni symud Rwmania i "România" ac Wcráin i "Ukrain". —Adam (sgwrscyfraniadau) 18:20, 16 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Dwi wedi cadw fy mhig allan o'r drafodaeth ddiweddaraf yma achos creodd hyn gryn anghydfod yn y gorffennol ac dwi ddim eisiau ailagor hen greithiau. Dwi'n cytuno'n llwyr ag Adam (uchod) fodd bynnag. Mae anghysondebau'r "awdurdodau" swyddogol - e.e. rhestr warthus "Bwrdd yr Iaith Cymraeg" gyda'i 'Pakistan' ac 'Afghanistan' a.y.y.b. - yn amlwg. Anatiomaros (sgwrs) 18:42, 16 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Cynnig

Cynigiaf ein bod yn mabwysiadu fersiwn Geiriadur yr Academi, a ble nad oes ganddo gyfieithiad, ein bod yn derbyn fersiwn yr Atlas Cymraeg Newydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:33, 17 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Rwy'n eilio'r cynnig (gan gymryd mai hyn yw'r drefn arferol).--Cymrodor (sgwrs) 23:17, 20 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Dwi'n derbyn y cynnig o ran egwyddor ond gan nodi hefyd:
1. Mae hyn yn mynd i olygu coblyn o lot o waith nid yn unig ar dudalennau ond hefyd ar y categoriau. Dwi'n gwybod fod gennym ni fot Llywelyn i wneud y gwaith ond bydd rhaid gwiro pob dim yn ofalus iawn: mae'r categoriau gwlad wedi cymryd oes i greu a threfnu a dwi ddim yn siwr gall bot wneud y cyfan yn llwyddianus felly bydd rhaid symud un cam ar y tro a chadw golwg barcud arno. Dwi'n awgrymu ein bod yn gwneud y gwaith fesul gwlad, yn nhrefn yr wyddor, gan aros i sicrhau fod y newidiadau'n iawn cyn symud ymlaen. (Dwi'n dipyn o "anorac categori", fel y gwyddoch mae'n siwr - dyna pam dwi'n pryderu am unrhyw waith mawr fel hyn!).
2. Mae sawl gwlad sy ddim yng Ngeiriadur yr Academi, fel mae Llywelyn yn nodi. Dwi ddim yn gweld unrhyw beth o'i le mewn mabwysiadu ffurfiau Cymraeg yn achos rhai sy'n Cymreigiadau naturiol di-lol, e.e. Brwnei.
Dwi o blaid hyn felly, ac yn barod i helpu, ond byddwch yn ofalus gyda'r bot, plîs! Anatiomaros (sgwrs) 23:55, 20 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Cytuno gyda sylwadau Anatiomaros. —Adam (sgwrscyfraniadau) 13:54, 21 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Penderfynwyd

Derbyn sillafiad Geiriadur yr Academi, a'u newid bob yn un. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:32, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb

Grêt, roedd yn hen bryd i ni wneud hyn, ond cofia am fy sylwadau uchod am y categoriau. Dwi'n derbyn bod ni am ddechrau gyda Affganistan felly? Dwi'n awgrymu symud ymlaen fesul cam gan gadw'r hen gategoriau - dros dro yn unig, wrth gwrs - er mwyn i mi fedru gwirio popeth yn hwylus cyn eu dileu pan fo'r gwaith ar Affganistan wedi'i gwblhau. Pryd wyt ti'n meddwl am ddechrau arni? Mae Adam yn gwneud lot o waith ar y categoriau hefyd, fel y gwyddost - rhwng y tri ohonom bydd y gwaith yn haws (gobeithio!). Anatiomaros (sgwrs) 16:12, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Ia Affganistan amdani. Wna i ddim cyffwrdd y cats am rwan! Mae'r bot ar hyn o bryd yn ceisio darganfod pob erthygl yn y categori Daearyddiaeth sydd a'r gair Afghanistan; mae o wedi mynd drwy 30,000 (yn y 4 awr ddiwethaf!) ac wedi darganfod un - a oedd yn enw papur o fewn y cyfeiriadau, felly mi wnes i neidio dros hwnnw gan mai enw papur newydd oedd o, a'r sillafiad wreiddiol yn ddrbyniol. Mae hyn yn dangos mor beryg ydy gadael iddo fynd drwyddyn nhw yn otomatig, oni bai mod i'n sgwennu cod C++ - neu fachu un -i hepgor y refs. Felly, bydd angen ei wneud gyda llaw. Mi roi rybudd i chi ar dudalen Defnyddiwr:BOT-Twm Crys wedi i mi gychwyn ar bump neu chwech o'r cats tua dydd Gwener. Cadwch lygaid barcud arno! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:21, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Mi wna i hynny, yn sicr! Dwi'n awgrymu arbrofi gydag un categori yn unig i ddechrau. Dwi am greu'r prif gategori 'Affganistan' rwan yn barod at y gwaith - a rhai o'r is-gategoriau pwysicaf hefyd efallai; yn wir mae'n syniad da i mi wneud hynny fy hun o flaen llaw fel rheol fel bod y goeden gategori yno'n barod, fwy neu lai, cyn i'r bot fynd ati i newid y categoriau yn y tudalennau. Yn achos rhai o'r gwledydd hyn prin fod angen bot o gwbl achos mae 'na cyn lleied o dudalennau, felly medra i wneud rhai ohonyn nhw fy hun yn reit sydyn gan adael y bot i wirio'r enw yn y testun. Anatiomaros (sgwrs) 19:26, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Gweler Categori:Affganistan! Gwaith awr oedd hynny, ond mae is-gategoriau Hanes a Daearyddiaeth i'w wneud eto yn nes ymlaen (dal yn Categori:Afghanistan am rwan). Fydd dim gwaith cats i'r bot felly ond bydd 'na dudalennau i'w symud a'r enw i newid mewn testunau hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 20:42, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn gweld y cats yn broblem, ond mi fydd Nodion megis 'delwedd_baner = Flag of Afghanistan.svg' neu 'banergwlad=Afghanistan' ayb Felly mi fydd yn rhaid creu cod i eithrio'r rhain er mwyn ei wneud yn otomatig. Dydd Gwener! Dw i wedi gwneud rhyw 4 newid o ran y testun yng nghorff erthyglau. Gweler cyfraniadau Botwm Crys. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:02, 2 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Mae'r un nesa ar y rhestr sef Antigua a Barbuda heb gynnig yn Geiriadur yr Academi. Y ffurfiau amgen a nodir gen ni yw 'Antigwa a Barbuda' ac 'Antigwa a Barbiwda'. O'r ddau dwi o blaid yr olaf - rhyw hanner Cymreigiad yw'r cyntaf. Neu ydym ni am adael hyn ac ambell un arall am nad oes cyfieithiad yng ngeiriadur Bruce?
Mae rhai o'r gwledydd yma yn hawdd i newid eu categoriau heb y bot gan fod cyn lleied o erthyglau. Medraf wneud Azerbaijan>Aserbaijan mewn deg munud, er enghraifft. Os gwnaf un neu ddau dros y dyddiau nesa wna i nodi'r enw yn y golofn ar y dde i ni gadw trac o'r hyn sy'n digwydd. Anatiomaros (sgwrs) 21:06, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
ON O sôn am enwau Cymraeg ar wledydd, mae hyn yn ddoniol: Golwg360 dan y llach am ddefnyddio Feneswela (ond wedi defnyddio 'Bolivia' ac 'Ecuador' yn yr un erthygl - typical!). Anatiomaros (sgwrs) 21:12, 9 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Dwi newydd symud Azerbaijan → Aserbaijan. Mae'n bosib wnaeth rhywun rhoi "Antigwa a Barbuda" gan fod Antigwa yn ymddangos yng Ngeiriadur Bruce, ond nid oes cyfieithiad am Barbuda. Mae Barbiwda yn gyfieithiad hollol naturiol i mi. Cytuno! —Adam (sgwrscyfraniadau) 14:23, 29 Gorffennaf 2013 (UTC)Ateb
Wedi symud gwledydd De America, ar wahân i Chile: mae G yr A yn awgrymu "Chile", ond "Tsile" yn achlysurol. Barnau? —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:48, 21 Medi 2013 (UTC)Ateb
Yn bersonol, dwi'n casáu Ts yn lle Ch ... h.y. mae'n llawer gwell gen i China na Tseina ac mae Tsile yn edrych yn hollol hurt. --Blogdroed (sgwrs) 23:14, 21 Medi 2013 (UTC)Ateb
Fe eith pethe ar chwâl os ydan ni'n dod a barn bersonol i fewn i hyn, Blogdroed. Gofynwyd a chytunwyd i gadw at un Safon: a dewisiwyd dull ffonetig Geiriadur yr Academi. A thrafod Antigwa a Barbiwda ydym ar hyn o bryd. Gan nad ydy Barbiwda ddim yn y geiriadur mae'n rhaid dod ag ail linyn mesur i fewn i'r drafodaeth ac awgrym Anatiomaros ydy glynnu at llinyn mesur GyA, sef sillafu'r gair yn ffonetig, sy'n beth naturiol yn y Gymraeg. Cytuno efo Anat ac Adam felly efo Barbiwda. Llywelyn2000 (sgwrs) 03:26, 2 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Llenwi'r llefydd gweigion golygu

Fedrwn ni ddim creu baneri ayb heb enwau Cymraeg, felly dw i wedi ceisio llenwi'r bylchau yn seiliedig ar yr holl sgwrsio sydd wedi bod ar lawer o dudalennau Sgwrs. Y farn fwyaf amlwg sy'n codi, ydy y dylem fod yn driw i deithi naturiol yr iaith ac i'r sillafu ffonetig, Cymraeg ee 'Arwba' yn hytrach na 'Aruba', gan mai 'w' ydy'r sain. Mae dau air nad oedd yn cael eu hargymell gan yr un o'r ffynonellau (y colofnau), na sgyrsiau ar y tudalennau sgwrs: Kiribati a Kuwait a fy awgrym i ydy 'Ciribati' a 'Ciwait' hy y dull ffonetig o sillafu'r hyn sy'n cael ei ddweud. Mae na eithriadau, wrth gwrs, a gellir gweld nifer o sgyrsiau am y sillafu ee Tsieina yn hytrach na China yn dderbyniol, ond Chili da ni'n ei ddefnyddio ac nid 'Tsili'. Dw i wedi parchu'r sgyrsiau, ac wedi cadw'r 'de fault' neu'r status quo yn yr achosion hyn hy yr enw presenol ar yr erthygl / y wlad.

Does na ddim byd syfrdanol, na newydd (ar wahan i'r un newydd (Ciribati), yn fy argymhellion, a dw i'n gobethio y gallem eu derbyn 'en bloc' - a chodi unrhyw gwelliannau wedi hynny, yn unigol. Mae hawl, wrth gwrs, i wrthdroi pob un - ond er mwyn symud ymlaen, dyma fy nghynigion. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:43, 17 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Hen bryd i ni wneud hyn. "Coweit" sy gan Eiriadur yr Academi ar gyfer Kuwait. Hefyd, círibas yw ynganiad Kiribati. Dwi'n cynnig defnyddio "De Swdan" yn lle "De Sudan", er mwyn cadw cysondeb â Swdan. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:48, 17 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Cytuno. Dwi ddim yn hollol siwr am 'Coweit' ond mae cynrychioli union ynganiad geiriau Arabeg yn ieithoedd I-E fel y Gymraeg a'r Saesneg a'r Ffrangeg yn fethiant bob tro bron (dyna pam fod cynifer o amrywiadau hanesyddol ar yr enwau hynny yn eu gwisg Ewropeaidd). Ond fedrem ni fyth bodloni pawb felly ewch ati! Anatiomaros (sgwrs) 00:47, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

:-) Diolch! Cadwch lygad ar bethau! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:02, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Ehangu golygu

Fe sylwch mai gwledydd Sofran ydy'r rhain. Awgrymaf eu huno gyda gwledydd di-Sofran, ond sydd a chôd ISO 3166-1. Neu dau bennawd: Sofran a Di-Sofran?

Llywelyn2000 (sgwrs) 11:40, 18 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb

Dw i wedi cychwyn diweddaru rhai o'r tudalennau sy'n cynnwys rhestri o wledydd, gan gynnwys Gwledydd y byd, Rhestr gwledydd yn nhrefn CMC (PGP) y pen, Cwpan y Byd Pêl-droed, Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop, Rhestr gwledydd yn nhrefn eu harwynebedd, Rhestr codau Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad a Rhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaeth. Y dull hawddaf yw newid y Nodyn 'flag' i 'flagcountry', ac mi wneith y Nodion gyfieithu'r enwau i'r Gymraeg yn otomatig. Mae'r rhan fwyaf o'r Nodion yn eu lle ee 'Nodyn:Country data Iwerddon' a 'Nodyn:Country data FRG' Llywelyn2000 (sgwrs) 07:12, 21 Rhagfyr 2014 (UTC)Ateb
Dwi wedi cywiro dau enw oedd mewn coch yn y rhestr uchod.
Hefyd: Pam fod Yr Antarctig yno? Mae'n cael ei rannu rhwng sawl gwlad.
Hefyd, falla bod hi'n hwyr yn y nos ond dydwi ddim yn deall be wyt ti'n cynnig gyda "Fe sylwch mai gwledydd Sofran ydy'r rhain. Awgrymaf eu huno gyda gwledydd di-Sofran, ond sydd a chôd ISO 3166-1. Neu dau bennawd: Sofran a Di-Sofran?" Anatiomaros (sgwrs) 01:45, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
ON Wyt ti'n siwr am yr holl enwau swyddogol sydd ar y rhestr Gwledydd y Byd? Mae un o leiaf yn anghywir, debygwn i, sef "Gweriniaeth Ffederal Unol Daleithiau America" (er bod yr UDau yn weriniaeth ffederal). Anatiomaros (sgwrs) 02:07, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Os ceith rhywun eiliad i fwrw golwg dros y gwledydd di-sofran (llawer ohonyn nhw'n ardaloedd dibynnol) uchod mi faswn i'n ddiolchgar. Yn ail, bwrwch olwg dros y rhestr ieithoedd rwan da ni wedi cytuno ar y gwledydd gan fod y naill yn effeithio ar y llall. Hei leiff, chwedl Pontshân! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:48, 9 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
RE: ieithoedd. Tipyn o waith yno! Gweler hefyd Rhestr o ieithoedd India. Anatiomaros (sgwrs) 01:45, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Y ddalen a gytunwyd arni ydy hon ('Amrywiadau...') ac nid Gwledydd y byd; mae angen newid pob dalen ar wici sy'n cynnwys UN o'r enwau 'newydd' hyn ac mae hynny'n dipyn o waith! Ond ein rhestr sanctaidd ydy hon. Dw i di newid y sillafiad ar dros 800 o dudalennau yn ystod y pythefnos diwetha. Gwledydd sofan ydy'r rhain - a gwledydd sofran ydy'r rhan fwyaf o'r rhestr arall honno 'Gwledydd y byd' (Saesneg: 'List of sovereign states'). Gan mod i wedi dechrau colofn 'sofran / di-sofran' ar 'Gwledydd y byd', yna fe gaiff y rhest tiriogaethau dibynol / gwledydd di-sofran uchod fynd ar yr un rhestr. O leia maw'n bosib gwahaniaethu.
Sori am y gamddealltwriaeth, meddwl dy fod yn cyfeirio at y rhestr o wledydd y byd. Mae gwir angen sortio allan y rhestr honno, sy'n gawlach didrefn ar hyn o bryd. Diolch am dy waith! Anatiomaros (sgwrs) 02:28, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
UDA - mae na ddisgrifiad ar frig Gwybodlen pob gwlad bron beth ydy enw swyddogol y wlad ee 'Gweriniaeth Niger'. Does dim am UDA, fel tasa nhw uwchben unrhyw ddisgrifiad! Y gosa fedra i ei ffindio ydy "Gweriniaeth Ffederal Unol Daleithiau America". Os nad, yna beth yw hi?
Ond mae'r rhestr yn cofnodi enwau swyddogol y gwledydd, e.e. 'Gweriniaeth Ffrainc' (République française). "United States of America" yw enw swyddogol y wlad (gweler y rhestr o wledydd y byd ayyb ar en:) nid "Federal Republic of the United States of America". Anatiomaros (sgwrs) 02:28, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Ieithoedd. Am rwan, rhaid canolbwyntio ar y brif ieithoedd, y rhai ar y rhestr hon.
Digon teg! Anatiomaros (sgwrs) 02:28, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Caribî yr Iseldiroedd"=Antilles yr Iseldiroedd. Diolch am hwn. Gwladwriaeth Palesteina"=Awdurdod Cenedlaethol Palesteina; mae en yn gwahaniaethu rhwng y ddau: Awdurdod Cenedlaethol Palesteina = Palestinian National Authority (heb gôd ISO ei hun) ond ar en mae ganddyn nhw erthygl en:State of Palestine gyda'i chod ISO 3166 ei hun. Dyma'r un y cyfeirir ati ar restr gwledydd. Diolch am dy ymateb - da ni'n dod yn nes ati'n ara bach! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:39, 10 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Ia, mae 'na ddryswch am statws - a diffiniad - Palesteina. Diolch am hynny. Anatiomaros (sgwrs) 02:28, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
ON Ydy'r "Collectivity of Saint Martin" yn perthyn i'r Borg? "You will be assimilated!". Anatiomaros (sgwrs) 02:30, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Y cenna drwg! Does gen i ddim clem sut i gyfieithu hwn! Casglaid y Sant! Clwstwr Sant Martin? Resistance is futile! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:06, 16 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Qatar -> Catar golygu

Fel nifer o ieithoedd eraill sy'n defnyddio llythrennau Lladin, dyw'r Gymraeg ddim yn cynnwys Q ac felly nid enw Cymraeg yw Qatar. Mae'r mwyafrif o ieithoedd yn y sefyllfa hon yn defnyddio K - Katar, ond mae'r rhai sydd heb K chwaith yn defnyddio C - Catar. Dylai'r enw Cymraeg ar y wlad hefyd fod yn Catar. Cynigaf symud y dudalen, gosod ailgyfeiriad o hon, a chywiro pob ystyr o'r enw anghywir. Cymrodor (sgwrs) 09:06, 5 Awst 2015 (UTC) Coipwyd i'r dudalen hon - o Sgwrs:Qatar - gan Defnyddiwr:Llywelyn2000.Ateb

@Cymrodor: Mae na 63 o dudalennau'n cynnwys y gair 'Qatar', heb son am y Nodion, felly mae angen ystyried yn ddwys cyn mynd ati. Gwelwn ar y dudalen yma fod yr amrywiadau'r geiriaduron yn cael eu nodi. Dim ond Geiriadur Bach Gomer sy'n cynnig 'Catar'. 'Qartar' mae golwg360 yn ei ddefnyddio yma, ac felly hefyd y BBC. Mae peidio a defnyddio 'k' a 'V' fel polisi, hefyd yn golygu y byddai'n rhaid newid y canlynol (dim ond engreifftiau sydyn yw rhain - mae na lawer mwy!): St Kitts-Nevis, St Vincent a'r Grenadines, Maldives, a beth am acenion estron: 'São Tomé a Príncipe' er enghraifft? Yn bersonol, dw i'n cytuno efo ti, a pholisi Wici, fel y gweli uchod ydy mabwysiadu'r termau ffonetig. Ond os oes cytuneb, nid dyma fy mlaenoriaeth i'n bersonol. Llywelyn2000 (sgwrs) 20:56, 6 Medi 2015 (UTC)Ateb
Gan na fu ymateb yna cynigiaf gau'r drafodaeth. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:43, 17 Chwefror 2016 (UTC)Ateb

Chile golygu

O ran cysondeb ar draws wefanau Cymraeg, mae BBC Cymru Fyw a BBC Radio Cymru yn cadw at Chile ... tydw i ddim yn hoff o Chili gan mai nid Chili - odli efo "Billy" yw'r ynganiad brodorl. Blogdroed (sgwrs) 11:37, 8 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

Gweler y drafodaeth ar Sgwrs:Tîm pêl-droed cenedlaethol Tsile. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:52, 10 Gorffennaf 2018 (UTC)Ateb

Enw ar gyfer Bougainville? golygu

(sori am ddefnyddio Saesneg)

Considering Bougainville will get independence soon (by 2025), should we adopt a new name for Bougainville or leave it as it is? It's pronounced Bogenvil (interestingly Bogenvil is also its local Tok Pisin name), so I would suggest Bogenfil. Yr Atlas Cymraeg Newydd and the Academi don't have names for the island, but the letter "v" doesn't exist in Welsh anyway. Any thoughts? Please share them. Diolch. 110.150.4.116 11:01, 15 Ionawr 2022 (UTC)Ateb

Yn ôl yr erthygl Saesneg mae'r ynys wedi'i henwi ar ôl Louis Antoine de Bougainville (In 1768, French admiral Louis Antoine de Bougainville sailed along the east coast of the island that now bears his name.). Os felly, dwi ddim yn credu bod sillafiad Cymraeg yn addas. Yn yr un modd dan ni ddim yn galw Ynysoedd Cook yn Ynysoedd Cwc er nod oes 'k' yn y wyddor Gymraeg gyfoesǃ--Rhyswynne (sgwrs) 09:19, 18 Ionawr 2022 (UTC)Ateb
Cytuno'n llwyr efo Rhys! Llywelyn2000 (sgwrs) 12:14, 18 Ionawr 2022 (UTC)Ateb
@Rhyswynne @Llwelyn2000 Iawn, yn gwneud synnwyr. 2001:8004:4440:E6EA:843:54B3:EA8A:17A6 22:20, 22 Ionawr 2022 (UTC)Ateb

Y Weriniaeth Tsiec golygu

Ers diddymu Tsiecoslofacia, mae'r enw Cymraeg cyffredin ar wlad y Tsieciaid wedi efelychu'r ffurf Saesneg: Y Weriniaeth Tsiec (Czech Republic). Fodd bynnag, mae'r llywodraeth ei hun wastad wedi annog defnyddio enw anwleidyddol, yn debyg i'r nifer fwyaf o enwau gwledydd, mewn ieithoedd eraill, er enghraifft Czechia yn Saesneg a Chequia yn Sbaeneg. Ers 2016, ar gais y llywodraeth, mae sefydliadau rhyngwladol a'r cyfryngau yn raddol mabwysiadu'r enw Czechia yn Saesneg. Awgrymaf defnyddio enw tebyg yn Gymraeg ar Wicipedia. Y ddau ddewis yw:

  • Tsiecia – enw syml, yn debyg i'r ffurfiau mewn nifer o ieithoedd Ewropeaidd eraill, a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru. Gweler y ffeil Excel yma: safonwyd yr enw yn Awst 2021 yn ôl arddulliadur y llywodraeth ("Dyma'r ffurf fer ryngwladol ar enw'r Wladwriaeth Tsiec, a ffefrir gan Lywodraeth y wlad honno.")
  • Gwlad Tsiec – enw tebyg i Wlad Pwyl a Gwlad Belg, a ddefnyddir yn fynych ar y we (enghreifftiau).

Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:17, 14 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb

Syniad da! Rwy'n gryf o blaid defnyddio'r ffurf a argymhellir gan Lywodraeth Cymru (ar wefan BydTermCymru hefyd), sef Tsiecia. Craigysgafn (sgwrs) 21:17, 14 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Helo, ysgrifennaf fel Cymro yn briod â merch Tsiec ers dros 30 mlynedd. Byddwn i’n tueddu defnyddio “Tseichia”, sy’n drosiad i’r Gymraeg o’r enw byr swyddogol “Czechia”. Ond rhaid cofio bod y sefyllfa’n gymleth, fel mae’r dudalen wici Saesneg yn esbonio’n dda:
1. Mae llawer yn y weriniaeth yn dal i ddefnyddio “Česká Republika”, ac yn gwrthwynebu’r enw byr.
2. Mae yna berygl bod yr enw “Tseichia / Czechia” yn anghofio am dir “Morava”; byddwn yn tueddu peidio defnyddio “Gwlad Tsiec” am y rheswm hwn hefyd.
3. Yn yr iaith “Tsiec”, “Česko” a ddefnyddir gan bobl ifanc. Byddai modd defnyddio “Tsiesco” efallai hefyd.
4. “Czechia” yw argymhelliad swyddogol y llywodraeth “Tsiec”. Mae’r ynghaniad yn yr iaith “Tsiec” yn cynnwys “ch” Cymraeg clir!!! Awgryma hyn “Tsiechia” i mi yn Gymraeg.
5. Yn wir, gellid dadlau mai camsyniad wrth drosi o’r Saesneg yw “Tseic”. “Čech” (neu “Tsiech” yn y Gymraeg) yw bon y geiriau yma i gyd. 90.255.161.144 16:21, 15 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Diddorol iawn, a diolch gyfaill.
Dyma ddolen i Fyd Term Cymru (awgrym Craigysgafn). Tsiecia neu Tsiechia, felly? O blaid y cyntaf - caiff ei ddefnyddio gan wefan safonol (Llywodraeth Cymru dw i'n meddwl); o blaid Tsiechia - mae'r sain 'ch' yn y gwreiddiol, nid 'c', a dyna argymhelliad Llywodraeth y wlad. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:12, 16 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Dwi o blaid "Tsiecia", am fod Llywodraeth Cymru yn ei argymell. Bydda' i'n safoni'r enw hwnnw os nad oes gwrthwynebiad (gan grybwyll yr enwau eraill yn yr erthygl am y wlad, wrth gwrs). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:27, 21 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Dyna'r datrysiad gorau, yn fy marn i. Mae'r gwybodaeth am yr ynganiad â "ch" yn ddiddorol, ond fydd hi ddim yn tycio mynd yn groes i'r safonau swyddogol. --Craigysgafn (sgwrs) 21:41, 21 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Cytuno, a mi ddanfonaf sylwadau fy nghyfaill Tsiecaidd i Gareth, Byd Term Cymru parthed y sain 'ch'. Efallai y dylem addasu'r canllaw uchod hefyd, gan newid 'Geiriadur yr Academi' i 'Fyd Term Cymru'. DS mae BTC yn aml yn ffafrio fersiwn Saesneg gair, yn hytrach na'r iaith wreiddiol, sy'n mynd yn groes i'r graen, i mi'n bersonol. Ond ar ddiwedd y dydd, mae'n rhaid i ni dderbyn ffynonellau academaidd solad, nid mympwy personol. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:13, 24 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Mae'n anodd cael rheol gaeth ynghylch pa awdurdod i'w ddilyn, onid e? Y pwynt allweddol yn yr achos presennol yw mai enw newydd yw "Tsiecia", felly ni all yr Academi roi arweiniad. Gyda threigl amser bydd BTC yn debygol o fod yn fwy perthnasol. Nid ar chwarae bach yw'r newid i "Tsiecia": efallai na ddylen ni ruthro i newid y canllaw. --Craigysgafn (sgwrs) 13:21, 26 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Pwyntiau dilys a theg. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:33, 26 Gorffennaf 2023 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg".