Unol Daleithiau America: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 60:
Ymladdwyd [[Rhyfel Cartref America]] (1861 - 1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad [[Abraham Lincoln]] yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn [[1861]]. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr [[Jefferson Davis]] fel Arlywydd.
 
Dechreuodd yr ymladd ar [[12 Ebrill]], [[1861]], pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith [[De Carolina]]. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn [[Robert Edward Lee|Robert E. Lee]] a [[Stonewall Jackson|"Stonewall" Jackson]], ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym [[Brwydr Gettysburg|Mrwydr Gettysburg]] yn nhalaith [[Pennsylvania]] ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan [[Ulysses S. Grant]] Vicksburg yn nhalaith [[Mississippi]], a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar [[Afon Mississippi]]. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith [[Virginia]] yn ystod haf 1864 a chipiodd [[William Tecumseh Sherman]] [[Atlanta, Georgia]]. Yn 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn AppomatoxAppomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
 
Yn [[1868]] gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.