Almohadiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 43 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q199688 (translate me)
B Tunisia → Tiwnisia
Llinell 1:
[[Delwedd:506-Castile 1210.png|200px|bawd|Tiriogaeth yr '''Almohadiaid''' yn ne Sbaen a'r Maghreb yn 1210]]
Brenhinllin [[Berberiaid|Berberaidd]] a reolai'r [[Maghreb]] yng [[Gogledd Affrica|Ngogledd Affrica]] a de [[Sbaen]] ([[Andalusia|al-Andalus]]) yn ail hanner yr [[11eg ganrif|unfed ganrif ar ddeg]] a hanner cyntaf y [[12fed ganrif|ddeuddegfed]] oedd yr '''Almohadiaid'''. Ei phrif ddinasoedd oedd [[Marrakech]] ([[Moroco]]) a [[Seville]] ([[al-Andalus]]) ond reodd [[Algiers]], [[TunisTiwnis]] a [[Kairouan]] yn y dwyrain yng nghanolfannau pwysig yn ogystal.
 
Mae eu henw'n tarddu o'r gair [[Arabeg]] ''al-muwahiddun'' ('credadwyr mewn Undod [[Duw]]') ac mae'n adlewyrchu ymagwedd biwritanaidd y mudiad diwygiadol a arweiniwyd ym Moroco gan [[Ibn Tumart]] (c.[[1080]] - [[1130]]), sylfaenwr y frenhinllin.
 
Ymladdodd Ibn Tumart yn erbyn y [[Almorafidiad]] o [[1114]] ymlaen a sefydlodd ei bencadlys yn [[Tinmal]] ym [[mynyddoedd Atlas]]. Llwyddodd ei olynydd y [[Califf]] [[Abd al-Mu'min]] ([[1130]]/33 - [[1163]]) i oresgyn y Maghreb benbaladr, gan gynnwys Moroco, [[Algeria]], [[TunisiaTiwnisia]] a [[Libia]], erbyn [[1160]], ynghyd ag al-Andalus ([[1146]]-[[1154]]). Cyrhaeddodd yr Almohadiaid uchafbwynt eu grym yn nheyrnasiad [[Abu Ya'qub Yusuf]] ([[1163]] - [[1184]]) a'i olynydd [[Abu Yusuf Ya'qub al-Mansur]] neu al-Mansur ('Y Buddugoliaethus': 1184-[[1199]]). Blodeuodd ddysg a rhoddid nawdd i ysgolheigion fel [[Averroes]].
 
Ond daeth tro ar fyd. Collodd [[Muhammad an-Nasir]] ([[1199]] - [[1213]]) dir yn Sbaen yn [[1212]] ar ôl [[brwydr Las Navas de Tolosa]]. Cododd y rheolwyr Mwslim lleol y gwladwriaethau ''[[taifa]]'' yn al-Andalus yn eu herbyn hefyd yn [[1213]], am resymau crefyddol a gwleidyddol. Yn TunisiaNhiwnisia daeth yr [[Hafsidiaid]] i rym yn [[1229]] a'r [[Abd al-Wadidiaid]] yn Algeria. Rheolodd gyfres o galiffiaid am gyfnodau byr. Syrthiodd yr Almohadiaid yn ôl ar eu cadarnleoedd ym Moroco ac ymrannodd y frenhinllin yn ddau. Rhwng [[1244]] a [[1269]] collodd yr Almohadiaid eu grym a chymerodd brenhinllin y [[Merinidiaid]] drosodd yn eu lle yng ngorllewin y Maghreb.
 
== Califfiaid Muwahhadi (Almohad), 1145–1269 ==
Llinell 26:
[[Categori:Hanes Gogledd Affrica]]
[[Categori:Hanes Moroco]]
[[Categori:Hanes TunisiaTiwnisia]]
[[Categori:Hanes Algeria]]
[[Categori:Al-Andalus]]