Gabès: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 34 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q215661 (translate me)
B Tunisia → Tiwnisia
Llinell 1:
[[Delwedd:Gabes promanade 2007.JPG|250px|bawd|Rhodfa môr Gabès]]
Dinas yn ne [[TunisiaTiwnisia]] sy'n ganolfan weinyddol [[Gabès (talaith)|talaith Gabès]] yw '''Gabès''' ([[Arabeg]]: قابس). Mae'n gorwedd ar wastadedd yr Arad ger arfordir y [[Môr Canoldir]] ar Draffordd Genedlaethol 1, rhwng [[Sfax]] i'r gogledd a [[Djerba]] i'r de. Mae'n dref ddiwydiannol gyda phoblogaeth o tua 116,000. Ceir [[gwerddon]] fawr ar gyrion y ddinas.
 
Roedd tref fechan dan reolaeth [[Carthago]] ar safle'r ddinas; sefydlwyd y [[Rhufeiniaid]] ddinas Tacapae ar y safle. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd Gabès wedi datblygu yn derminws ogleddol un o'r llwybrau masnach ar draws y [[Sahara]] yn dod ag [[aur]] o [[Gorllewin Affrica|Orllewin Affrica]] a chaethweision o [[Sudan]]. Daeth y fasnach i ben yng ngyfnod rheolaeth [[Ffrainc]] yn TunisiaNhiwnisia a dirywiodd y dref, ond tyfodd eto yn yr 20fed ganrif i ddod yn ganolfan [[diwydiant]], yn enwedig wedi i [[olew]] gael ei ddarganfod yn y môr gerllaw; ceir safle [[petrogemeg]]ol fawr ar gyrion y ddinas.
 
Dydi Gabès ddim yn denu twristiaid o gwbl, er bod yr hen chwarter, y Jara, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, ond mae tref fechan [[Matmata]] a'i chartrefi ogofaol, yn yr [[anialwch]] i'r de, yn atyniad mawr: saethwyd rhannau o'r ffilm ''[[Star Wars]]'' yno.
 
[[Categori:Dinasoedd TunisiaTiwnisia]]
[[Categori:Talaith Gabès]]