Y Gwyll: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cyfres ddrama a ddarlledwyd ar S4C'
Llinell 1:
Cyfres ddrama a ddarlledwyd ar S4C
{{Gwybodlen Teledu
| enw'r_rhaglen = Y Gwyll
| delwedd =
| pennawd =
| genre = [[Drama]]
| crëwr = [[S4C]]
[[BBC Wales]]
[[Fiction Factory]]
| serennu = [[Richard Harrington]]
[[Mali Harries]]
[[Alex Harries]]
[[Hannah Daniel]]
[[Aneirin Hughes]]
| gwlad = [[Cymru]]
| iaith = [[Cymraeg]]
[[Saesneg]]
| nifer_y_cyfresi = 1
| nifer_y_penodau = 4
| amser_rhedeg = 120 munud
| sianel = [[S4C]]
| darllediad_cyntaf = [[29 Hydref]], [[2013]]
| darllediad_olaf =
| gwefan = http://www.s4c.co.uk/ygwyll/e_index.shtml
| rhif_imdb =

Rhaglen deledu dditectif wedi'i lleoli yng [[Ceredigion|Ngheredigion]], ac yn [[Aberystwyth]] yn bennaf, yw '''''Y Gwyll'''''. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar [[S4C]] yn Hydref 2013.

Yr actor Cymreig [[Richard Harrington]] sydd yn chwarae rôl y prif gymeriad, DCI Tom Mathias.

== Plot ==
{{eginyn-adran}}

== Cynhyrchiad ==
Crewyd y gyfres gan y dramodydd Ed Thomas, cyfarwyddwr creadigol y cwmni ffilm [[Fiction Factory]] a leolir yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]],<ref name=Guardian/> ac Ed Talfan.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.buzzmag.co.uk/uncategorized/y-gwyll-hinterland-feature/ |teitl=Y Gwyll/Hinterland |cyhoeddwr=buzz |dyddiad=31 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> ''Mathias'' oedd enw gwreiddiol y gyfres Gymraeg a ''Hinterland'' yr enw Saesneg,<ref name=BBC-hwb/> ond newidwyd yr enw Cymraeg i ''Y Gwyll'' ym mis Ebrill 2013.<ref name=enw>{{dyf gwe |url=http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=776 |teitl=Enw cyfres dditectif Gymraeg yn cael ei ddatgelu – Y Gwyll |cyhoeddwr=[[S4C]] |dyddiad=25 Ebrill 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Datganwyd yn Rhagfyr 2012 y bydd rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn ymddangos yn ystod y gyfres, gan gynnwys [[Siân Phillips]], [[Matthew Rhys]], [[Ioan Gruffudd]] a [[Rhys Ifans]].<ref name=BBC-hwb>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20831804 |teitl=Hwb ariannol drama deledu |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=24 Rhagfyr 2012 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref>

Cynhyrchiad yw ''Y Gwyll'' gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, [[Tinopolis]], [[BBC Cymru Wales]], Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd.<ref name=PA/> Costiodd £4.2 miliwn i gynhyrchu'r gyfres, a chymerodd dwy flynedd a hanner i godi'r swm hwnnw.<ref name=Guardian/> Derbynodd y cynhyrchwyr £215,000 gan [[Llywodraeth Cymru|Lywodraeth Cymru]] fel cyllid busnes y bydd rhaid ei ad-dalu.<ref name=BBC-hwb/> Cafodd y gyfres ei ffilmio'n gyfan gwbl yng Ngheredigion, ac yn ddwywaith: yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bu rhai o fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu [[Prifysgol Aberystwyth]] yn cael profiad gwaith yn ystod cynhyrchu'r gyfres.<ref name=PA/> Tra'n ffilmio bu'r actorion yn treulio amser gyda ditectifs lleol, gan gynnwys rhai a weithiodd ar [[achos April Jones]].<ref name=Guardian/> Cafodd ei ffilmio tan fis Mai 2013, a bu'r gwaith [[ôl-gynhyrchu]] yn digwydd yng Nghaerdydd.<ref name=BBC-hwb/> Penderfynwyd i ddefnyddio'r enw Cymraeg a'r enw Saesneg (''Y Gwyll''/''Hinterland'') wrth frandio'r gyfres.<ref name=enw/> Yn ôl Ed Thomas y prif reswm dros y penderfyniad i greu rhaglen "gefn-wrth-gefn" Cymraeg a Saesneg oedd er mwyn denu buddsoddiad ychwanegol at y gyllideb gan S4C, ond ym mis Medi 2013 dywedodd mi fyddai'n "fwy ffyddiog [...] yn fwy optimistig y gallen ni ddosbarthu stwff nawr yn Gymraeg ar ôl bod trwy’r profiad hyn, achos mae gymaint o bobl wedi dangos cyn gymaint o ddiddordeb ynddo fe".<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/122128-hyder-yng-ngwyll-y-gymraeg |teitl=Hyder yng ngwyll y Gymraeg |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=20 Medi 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref>

Ar ddiwedd darllediad y gyfres gynta ar S4C fe gyhoeddwyd fod gwaith wedi dechrau ar ail gyfres i'w ddarlledu mewn blwyddyn.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=857 |teitl=Mwy o'r Gwyll ar y gweill – S4C yn cyhoeddi bod rhagor i ddod |cyhoeddwr=[[S4C]] |dyddiad=21 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=25 Tachwedd 2013 }}</ref>. Cyhoeddodd S4C a BBC Cymru fod ail gyfres wedi ei gomisiynu yn Ebrill 2014, gyda'r bwriad o ddarlledu yn hwyr yn 2014 neu ddechrau 2015. <ref>{{dyf gwe |url=http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=908 |teitl=Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd |cyhoeddwr=[[S4C]] |dyddiad=4 Ebrill 2013 |dyddiadcyrchiad=4 Ebrill 2013 }}</ref>

== Cast<ref>{{dyf gwe |url=http://www.s4c.co.uk/ygwyll/c_characters.shtml |teitl=Cymeriadau ''Y Gwyll'' |cyhoeddwr=[[S4C]] |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> ==
* [[Richard Harrington]] – [[Ditectif Prif Arolygydd|DCI]] Tom Mathias
* [[Mali Harries]] – DI Mared Rhys
* [[Alex Harries]] – DC Lloyd Elis
* [[Hannah Daniel]] – DS Siân Owens
* [[Aneirin Hughes]] – Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser

== Darllediad ==
Dangoswyd clipiau o'r rhaglen yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym mhabell S4C yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013]], mewn sesiwn gyda'r prif actorion Richard Harrington a Mali Harries, â'r uwch gynhyrchydd Ed Thomas.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/celfyddydau/eisteddfodau/118511-cyfle-cyntaf-i-weld-drama-newydd-s4c-yn-yr-eisteddfod |teitl=Y Gwyll yn dod i’r Eisteddfod |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=8 Awst 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref><ref name=cyfle>{{dyf gwe |url=http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=821 |teitl=Cyfle cyntaf i weld Y Gwyll Hinterland |cyhoeddwr=[[S4C]] |dyddiad=8 Awst 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Cafodd ei dangos hefyd yng nghynhadledd [[MIPCOM]] yn [[Cannes]] ar 8 Hydref 2013.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://schedule.mipcom.com/site/GB/Conferences/Conferences_sheet,HINTERLAND_Y_GWYLL_SCREENING,C311,I312,Zoom-8037087b5dbbdb0be2149a175fe2150c.htm |teitl="HINTERLAND (Y GWYLL)" SCREENING |dyddiad=8 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Dangoswyd ''première'' y bennod gyntaf ar 17 Hydref 2013 yn yr Hen Goleg, [[Prifysgol Aberystwyth]].<ref name=PA>{{dyf gwe |url=https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2013/10/title-141735-cy.html |teitl=Première Y Gwyll / Hinterland |cyhoeddwr=[[Prifysgol Aberystwyth]] |dyddiad=17 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Darlledwyd y bennod gyntaf ar S4C nos Fawrth 29 Hydref 2013.

Bydd BBC Cymru Wales a [[BBC Four]] hefyd yn darlledu'r gyfres yn Saesneg yn 2014, yn ogystal â'r darlledwr [[DR]] yn Nenmarc, drwy gytundeb gydag All3Media International.<ref name=PA/><ref name=cyfle/> Cred DR y bydd tirlun Cymru yn apelio at wylwyr Danaidd .<ref name=BBC-hwb/> Y fersiwn Saesneg fydd yn cael ei ddarlledu yn Nenmarc.<ref name=nico/>

== Derbyniad ==
Gwyliodd 116,000 o bobl y penodau cyntaf ar S4C, gan gynnwys 32,000 o wylwyr teledu y tu allan i Gymru a dros 10,000 a wyliodd ar y gwasanaeth ar-lein [[Clic (S4C)|Clic]]. Nid yw'r niferoedd hyn yn cynnwys y rhai a wyliodd yn fyw ar wefan S4C na'r rhai a ddefnyddiodd y gwasanaeth TVCatchup. Bu nifer o wylwyr yn trafod y rhaglen ar y wefan [[Twitter]] gyda'r tag stwnsh "#ygwyll", ac hwn oedd ail bwnc trafod mwyaf poblogaidd Twitter ar draws y Deyrnas Unedig ar noson ddarlledu'r bennod gyntaf.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/24868025 |teitl=Y Gwyll: Yn fwy na 110,000 o wylwyr |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=8 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref>

Roedd ymateb y beirniaid i'r gyfres yn ffafriol. Derbynodd Harrington yn arbennig clod am ei berfformiad.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/blog/blog_celf/127338-y-gwyll-910-medd-myfyriwr |teitl=Y Gwyll – 9/10 medd myfyriwr |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=8 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Cymeradwyodd nifer o feirniaid y defnydd o'r tirlun i ffurfio naws ''noir'' y rhaglen.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/24740398 |teitl=Y Gwyll yn dal y dychymyg |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=30 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Yn ôl Nico Dafydd ym mhlog celfyddydau [[Golwg360]], "nid darlunio’r gorffennol sydd yma ond deall esthetig y Gymru fodern fel y mae, gan ychwanegu ysgrifennu crefftus i greu stori. Wedi ei leoli yn Aberystwyth, mae’n falch o’r adeiladau, o’r bryniau, y golygfeydd, ac yn eu clymu’n rhan o’r stori."<ref name=nico>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/blog/blog_celf/127659-y-gwyll-darlun-o-gymru |teitl=Y Gwyll: darlun o Gymru? |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=11 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Yn y ''[[Wales Arts Review]]'' ysgrifennodd Gary Raymond bod ''Y Gwyll'' yn llawn [[ystrydeb]]au'r rhaglen dditectif nodweddiadol, ond ei bod yn llwyddiannus ar y cyfan wrth ymdrin â'r ystrydebau hyn mewn ffordd effeithiol.<ref name=Raymond/> Cafwyd nifer o gymharu ''Y Gwyll'' â chyfresi "''noir'' Nordig",<ref name=Raymond>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.walesartsreview.org/y-gwyll-hinterland/ |teitl=Y Gwyll/Hinterland |gwaith=Wales Arts Review |awdur=Gary Raymond |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> gan gynnwys y rhaglen Ddanaidd ''[[Forbrydelsen]]'' (a ddarlledwyd ym Mhrydain dan yr enw ''The Killing''),<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.walesonline.co.uk/whats-on/film-tv/hinterland-star-sara-lloyd-gregory-won-6243193 |teitl=Bafta Cymru Best Actress Sara Lloyd-Gregory on being a writer's muse |cyhoeddwr=WalesOnline |dyddiad=26 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 |dyfyniad=''A fan of Scandinavian drama, Sara says it was great to have the opportunity to be involved with the Welsh take on the fashionable genre'' }}</ref><ref name=subtitles>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.walesonline.co.uk/whats-on/film-tv/y-gwyllhinterland-review-watch-welsh-6253628 |teitl=Y Gwyll/Hinterland review: Subtitles never did The Killing any harm |cyhoeddwr=WalesOnline |dyddiad=29 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref><ref name=daniel>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/blog/blog_celf/127338-y-gwyll-910-medd-myfyriwr |teitl=Y Gwyll – 9/10 medd myfyriwr |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=8 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> a'r gyfres Swedaidd ''[[Wallander]]''.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/126254-y-gwyll-beth-oedd-eich-barn-chi |teitl=Y Gwyll – beth oedd eich barn chi? |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=30 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref><ref name=Guardian>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2013/jul/30/hinterland-tv-noir-wales |teitl=Hinterland – the TV noir so good they made it twice |gwaith=[[The Guardian]] |dyddiad=30 Gorffennaf 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref> Cafodd y gyfres Gymraeg hefyd adolygiadau ffafriol gan [[argrafflen]]ni Llundain.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.walesonline.co.uk/whats-on/film-tv/welsh-noir-drama-y-gwyll-6281629 |teitl=Welsh noir drama Y Gwyll / Hinterland proves a hit across the border for S4C |cyhoeddwr=WalesOnline |dyddiad=7 Tachwedd 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 |dyfyniad=''The S4C crime thriller finally aired for the first time on October 29 and has subsequently enjoyed favourable reviews from the English broadsheet press. [...] The Guardian newspaper described it as "Wales' impressive addition to the subtitled homicide genre." It added: "Fans of washed-out noir slaughter are going to love this for its slow, confident pacing, attention to detail and Harrington’s engrossing performance."'' }}</ref>

Cynigwyd ''early day motion'' yn [[Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)|Nhŷ'r Cyffredin]] i groesawu'r gyfres, gyda 14 o Aelodau Seneddol yn cefnogi'r cynnig.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.parliament.uk/edm/2013-14/633 |teitl=Early day motion 633: Y GWYLL/HINTERLAND |dyddiad=28 Hydref 2013 |dyddiadcyrchiad=11 Tachwedd 2013 }}</ref>

== Penodau ==

=== Cyfres 1 (2013) ===

{| class="wikitable plainrowheaders" style="background: White;"
|- style="border: 3px solid #333333;"
! # !! Teitl !! Cyfarwyddwr !! Awduron !! Darlledwyd (S4C) !! Gwylwyr (S4C)<ref>Ffigyrau gan [[S4C]]. ''Gweler[http://www.s4c.co.uk/abouts4c/viewing/c_index.shtml]'', Ffigyrau Gwylio S4C.</ref>
{{Episode list
| EpisodeNumber=1
| Title= Pennod 1
| WrittenBy= David Joss Buckley & Ed Thomas
| DirectedBy= Marc Evans
| OriginalAirDate= {{Start date|2013|10|29|df=y}}
{{Start date|2013|10|31|df=y}}
| AltDate = 81,000
58,000
| ShortSummary=Wrth ymchwilio i ddiflaniad menyw grefyddol 64 mlwydd oed o’r enw Helen Jenkins, mae DCI Mathias yn ein tywys i waelodion ceunant dwfn ym Mhontarfynach, ac yn dadguddio hanes creulon hen gartref plant.
| LineColor= 333333

{{Episode list
| EpisodeNumber=2
| Title= Pennod 2
| WrittenBy= Ed Talfan
| DirectedBy= Gareth Bryn
| OriginalAirDate= {{Start date|2013|11|5|df=y}}
{{Start date|2013|11|7|df=y}}
| AltDate = 66,000
57,000
| ShortSummary=Mewn ffermdy anghysbell mae Idris Williams, gŵr lleol 69 oed, wedi cael ei guro i farwolaeth. Wrth ymchwilio i’r ymosodiad mae cyfrinachau gwaedlyd y mynydd yn dod i’r wyneb.
| LineColor= 333333

{{Episode list
| EpisodeNumber=3
| Title= Pennod 3
| WrittenBy= David Joss Buckley & Ed Thomas
| DirectedBy= Rhys Powys
| OriginalAirDate= {{Start date|2013|11|12|df=y}}
{{Start date|2013|11|14|df=y}}
| AltDate = 72,000
66,000
| ShortSummary=Ym mhentref tawel Penwyllt, mae corff gŵr ifanc yn cael ei ddarganfod yn nyfroedd oer llyn y chwarel. Ond pwy yw e, ac ai damwain oedd hyn?
| LineColor= 333333

{{Episode list
| EpisodeNumber=4
| Title= Pennod 4
| WrittenBy= Jeff Murphy
| DirectedBy= Ed Thomas
| OriginalAirDate= {{Start date|2013|11|19|df=y}}
{{Start date|2013|11|21|df=y}}
| AltDate = 64,000
49,000
| ShortSummary=Yng nghanol cors anghysbell mae corff merch ifanc wedi ei osod yn ofalus ac yn dyner. Mae’r drosedd yma, ym mhennod ola’r gyfres, yn gwthio DCI Mathias yn agos at y dibyn, yn bersonol ac yn ei yrfa broffesiynol.
| LineColor= 333333

== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau|2}}

== Dolenni allanol ==
* [http://www.s4c.co.uk/ygwyll/c_index.shtml Y Gwyll] ar wefan [[S4C]]

[[Categori:Rhaglenni teledu a gychwynwyd yn 2013]]
[[Categori:Rhaglenni teledu ditectif]]
[[Categori:Rhaglenni teledu S4C]]