Wojciech Jaruzelski: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Wojciech Jaruzelski ym 1968. Swyddog milwrol a gwleidydd Pwylaidd oedd yn arweinydd comiwnyddol olaf Gwlad Pwyl...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:32, 20 Mehefin 2014
Swyddog milwrol a gwleidydd Pwylaidd oedd yn arweinydd comiwnyddol olaf Gwlad Pwyl oedd Wojciech Witold Jaruzelski (6 Gorffennaf 1923 – 25 Mai 2014).[1] Roedd yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gweithwyr Unedig Gwlad Pwyl o 1981 hyd 1989, yn Brif Gweinidog Gwlad Pwyl o 1981 hyd 1985, ac yn Arlywydd Gwlad Pwyl o 1985 hyd 1990. Roedd hefyd yn bencadfridog olaf Byddin Pobl Gwlad Pwyl. Ymddiswyddodd yn sgil Cytundeb y Ford Gron ym 1989 a arweiniodd at etholiadau democrataidd yng Ngwlad Pwyl.
Chwaraeodd rhan flaenllaw wrth orfodi rheolaeth filwrol yng Ngwlad Pwyl ar 13 Rhagfyr 1981 i ormesu'r mudiad democrataidd, gan gynnwys Solidarność.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Pick, Hella (25 Mai 2014). General Wojciech Jaruzelski obituary. The Guardian. Adalwyd ar 20 Mehefin 2014.
- ↑ (Saesneg) Gen. Wojciech Jaruzelski, Solidarity’s Foil, Dies at 90. The New York Times (25 Mai 2014). Adalwyd ar 20 Mehefin 2014.