Am y tro cyntaf yn hanes Cwpan y Byd llwyddodd pob un o ennillwyr y grwpiau i gyrraedd rownd yr wyth olaf. LLwyddoddLlwyddodd Yr Almaen i drechu Ffrainc 1-0 a chyrraedd y rownd gynderfynol am y pedwerydd cystadleuaeth o'r bron a llwyddodd Brasil i guro Colombia 2–1, ond bydd [[Neymar]] yn colli gweddill y gystadleuaeth wedi iddo ddioddef anaf yn ystod y gêm. Cyrhaeddodd Yr Ariannin y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1990 ar ôl curo Gwlad Belg 1-0. Ac am yr ail dwrnament yn olynol cyrhaeddodd Yr Iseldiroedd y rownd gynderfynol ar ôl ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn Costa Rica.