C.P.D. Tref Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 23:
Er na chafodd y clwb eu derbyn i Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru yn eu tymor cyntaf, trefnwyd cyfres o gemau cyfeillgar. Cafwyd buddugoliaeth 3-2 dros dîm Amaturiaid Y Rhyl yn eu gêm gyntaf ar [[20 Hydref]] 1910 a'r tymor canlynol roedd y clwb yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Prestatyn a'r Cylch ynghyd â Dyserth Park Rangers, Gwespyr Rangers, Meliden Church Guild, Rhuddlan United a Rhyl Swifts.
 
Cymrodd y clwb ran yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn nhymor 1929/30<ref>{{cite web |url=http://wfda.co.uk/welsh_cup.php?id=49 |title=Welsh Footbal Data Achive: Welsh Cup 1929-30 |published=Welsh Football Data Archive}}</ref> ond am y blynyddoedd rhwng Y ddwy rhyfel byd, chwaraeodd y clwb yng nghynghreiriau gymharol lleol,; Cynghrair Arfordir Sir Y Fflint a Chynghrair Bro Clwyd.
 
Ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ym 1953-54<ref>{{cite web |url=http://wfda.co.uk/leagues_welsh_league_n.php?season_id=15 |title=Welsh Football Data Archive: Welsh League (North) 1953-54 |published=Welsh Football Data Archive}}</ref> ond bu rhaid disgwyl hyd nes 2006-07 i sicrhau dyrchafiad i [[Cynghrair Undebol|Gynghrair Undebol Cymru]] ond llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth a dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar y cynnig cyntaf<ref>{{cite web |url=http://wfda.co.uk/leagues_ca.php?season_id=18 |title=Welsh Footbal data Archive: Cymru Alliance 2007-08 |published=Welsh Football Data Archive}}</ref>.