C.P.D. Tref Prestatyn

Clwb pêl-droed ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych yw Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn (Saesneg: Prestatyn Town Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Undebol, prif adran pêl-droed yng ngogledd Cymru.

C.P.D. Tref Prestatyn
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Prestatyn
Llysenw(au) The Seasiders
Sefydlwyd 1910
Maes Gerddi Bastion
Rheolwr Baner Cymru ?
Cynghrair Cymru North
2022-23 6

Cafodd y clwb ei ffurfio ym 1910. Maent wedi codi Cwpan Cymru unwaith, yn 2013[1] ac wedi cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau Ewropeaidd UEFA unwaith. Chwaraeant eu gemau cartref ar Erddi Bastion, maes sy'n dal uchafswm o 2,300 o dorf gyda 500 o seddi.

Hanes golygu

Er na chafodd y clwb eu derbyn i Gynghrair Arfordir Gogledd Cymru yn eu tymor cyntaf ym 1910, trefnwyd cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau'r gogledd. Cafwyd buddugoliaeth 3-2 dros dîm Amaturiaid Y Rhyl yn eu gêm gyntaf ar 20 Hydref 1910 ac erbyn y tymor canlynol roedd y clwb yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Prestatyn a'r Cylch ynghyd â Dyserth Park Rangers, Gwespyr Rangers, Meliden Church Guild, Rhuddlan United a Rhyl Swifts.

Cymrodd y clwb ran yng Nghwpan Cymru am y tro cyntaf yn nhymor 1929/30[2] ond am y blynyddoedd rhwng y ddau Ryfel Byd, chwaraeodd y clwb yng nghynghreiriau cymharol leol: Cynghrair Arfordir Sir Y Fflint a Chynghrair Bro Clwyd.

Ymunodd y clwb â Chynghrair Gogledd Cymru ym 1953-54[3] ond bu rhaid disgwyl hyd 2006-07 i sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol Cymru ond llwyddodd y clwb i ennill y bencampwriaeth a chael dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar y cynnig cyntaf[4].

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
2013–14 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Liepājas Metalurgs 1-2 3-3 3-3 (4-3 (c.o.s.))
Rhag 2   Rijeka 0-5 0-3 0-8

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sgorio: Prestatyn 3-1 Bangor". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Footbal Data Achive: Welsh Cup 1929-30". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Football Data Archive: Welsh League (North) 1953-54". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Welsh Footbal data Archive: Cymru Alliance 2007-08". Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolen allanol golygu

Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd