Gilgit–Baltistan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Pakistan → Pacistan
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
[[Delwedd:K2 8611.jpg|250px|bawd|[[K2]] o Concordia.]]
[[Delwedd:Gilgit-Baltistan in Pakistan (de-facto + Glacier) (disputed hatched) (claims hatched).svg|bawd|Lleoliad Gilgit–Baltistan]]
[[Delwedd:Gilgit Baltistan Government Logo.jpgsvg|bawd|]]
Un o diriogaethau gweinyddol [[Pacistan]] yw '''Gilgit–Baltistan''' ([[Wrdw]]: گلگت بلتستان, [[Balti (iaith)|Balti]]: གིལྒིཏ་བལྟིསྟན). '''Ardaloedd y Gogledd''' ([[Wrdw]]: شمالی علاقہ جات, ''Shumālī Ilāqe Jāt'') neu, yn swyddogol, '''Ardaloedd y Gogledd dan Weinyddiaeth Ffederal''' (''Federally Administered Northern Areas'': FANA) oedd ei henw tan 2009. Mae Gilgit–Baltistan yn ffurfio'r endid mwyaf gogleddol o fewn y rhan o gyn-deyrnas [[Teyrnas Jammu a Kashmir|Jammu a Kashmir]] sydd dan reolaeth Pacistan yn hytrach nag [[India]]. Mae'n ffinio ar ddarn bychan o [[Affganistan]] i'r gogledd-orllewin, [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain, talaith Bacistanaidd [[Jammu a Kashmir Azad]] (AJK) i'r de, a thalaith Indiaidd [[Jammu a Kashmir]] i'r de-ddwyrain. Ffurfiwyd yr Ardaloedd yn 1970 pan unwyd Asiantaeth [[Gilgit]], Dosbarth [[Baltistan]] ([[Ladakh]] Wazarat), a [[Hunza]] a [[Nagar]]. Gyda chanolfan weinyddol yn nhref [[Gilgit]], mae gan Gilgit–Baltistan arwynebedd o 72,971 km² (28,174 mi²) a phoblogaeth o tua 1,800,000.