Llanfyllin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes: camdreiglad
Llinell 23:
 
==Hanes==
Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei leoliadlleoliad strategol - rhwng yr [[Amwythig]] a'r [[Y Bala|Bala]]. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif [[Castell Bodyddon]], un o gestyll tywysogion [[teyrnas Powys|Powys]], [[castell mwnt a beili]] pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r [[Oes Efydd]] a [[ffordd Rufeinig]] sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa.<ref>Roman Britain Organisation. [http://www.roman-britain.org/places/caersws.htm "Mediomanum?" at ''Roman Britain'']. 2010.</ref> Hen domen, neu [[castell mwnt a beili|fwnt]], o'r [[Oesoedd Canol]] ydy [[Tomen y Cefnlloer]] (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw {{gbmapping|SJ118225}}.<ref>[http://www.coflein.gov.uk/en/site/306790/details/TOMEN-Y-CEFNLLOER%3B+TOMEN+MOEL+FROCHAS/ Gwefan Coflein]; adalwyd 16 Ionawr 2015</ref>
[[Delwedd:Ffair Llanfyllin (8697317497).jpg|bawd|chwith|320px|Marchnad yn Llanfyllin tua 1885]]
 
Llinell 32:
Un o'r tai harddaf, gyda 5 bae, yw 'Manor House' a godwyd yn 1737; i'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif [[Neuadd Bodfach]], hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i [[Einion Efell]] etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad [[Madog ap Meredydd]], Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen [[Castell mwnt a beili|fwnt a beili]] ('[[Tomen yr Allt]]') gael ei ddymchwel yn 1256.
 
Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn [[Rhyfeloedd Napoleon]] (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel, Ffrengig, Pierre Augeraud i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau gyda merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd iawn a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn [[Badajoz]], [[Sbaen]] yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.<ref>[http://www.secretdiner.co.uk/USERIMAGES/Llanfyllin%20tale%20from%20a%20romantic%20churchyard..doc www.secretdiner.co.uk;] Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015</ref> Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna ble safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y ''Legion d’Honneur'' gan Napoleon ei hun. gyda sel bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.
 
==Pobl o Lanfyllin==