Tref fechan a chymuned yng ngogledd Powys, Cymru, yw Llanfyllin[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Dyma'r dref fwyaf yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Mae'n gorwedd ym masn afon Cain i'r de o fryniau'r Berwyn, ar y briffordd A490 yn ardal Maldwyn. Mae wedi'i lleoli 14 milltir (23 km) i'r de-orllewin o Groesoswallt a 25 milltir (24 km) o Drefaldwyn. Llifa dwy afon i lawr y dyffryn: afonydd Cain ac Abel, gan ymuno â'r Efyrnwy yn Llansantffraid-ym-Mechain.[2]

Llanfyllin
Mathtref bost, tref farchnad, cymuned, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,532 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,177.72 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.7664°N 3.2725°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000305 Edit this on Wikidata
Cod postSY22 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n blwyf eglwysig a fu'n blwyf sifil am gyfnod hefyd ac yn adnabyddus am ei ffynnon sanctaidd, a gysegrir i Sant Myllin. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y boblogaeth yn 1,532, gyda dim ond 41.4% wedi'u geni yng Nghymru.

Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei lleoliad strategol - rhwng yr Amwythig a'r Bala. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif Castell Bodyddon, un o gestyll tywysogion Powys, castell mwnt a beili pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r Oes Efydd a ffordd Rufeinig sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa.[3] Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Cefnlloer (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw cyfeiriad grid SJ118225.[4]

 
Canol tref Llanfyllin
 
Marchnad yn Llanfyllin tua 1885
 
Plac ar adleilad gyferbyn a phorth yr eglwys

Mae yma ffynnon, "Ffynnon Coed y Llanin", a gysegrwyd i Sant Myllin (Gwyddel o'r enw 'Molling', mae'n debyg), ac eglwys a godwyd yn wreiddiol yn y 7g. Arferid bedyddio pobl yn y ffynnon. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn eglwys frics a godwyd yn 1706 ac sy'n ddwywaith maint yr hen eglwys. Rheithor yma oedd yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604). Codwyd un o gapeli cyntaf yr Annibynwyr, Capel Pen-dref, yma yn Llanfyllin yn 1701, ond fe'i llosgwyd gan y Jacobitiaid yn 1715 a chodwyd yr adeilad presennol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dwy dref drwy Gymru gyfan a dderbyniodd siarter gan y tywysogion Cymreig: Y Trallwng a Llanfyllin, a dderbyniodd ei statws yn 1293[5] (1294 yn ôl Gwyddoniadur Cymru) gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mechain Uwch y Coed a Mochnant Uwch Rhaeadr,[6] yn nheyrnasiad Edward I. Cadarnhawyd y siartr gan Edward de Charlton, dan Harry V, a ddiffiniodd Llanfyllin yn dref farchnad. Yn 1644, treuliodd Charles I y diwrnod yma, ar ei ffordd i'r Brithdir ac yna ymlaen i Gastell y Waun.[2]

Ceir sawl tŷ o ddiddoredeb hanesyddol yn yr ardal. Yn Llanfyllin ei hun ceir 'Manor House', gyda'i bump bae ffenestr, a godwyd yn 1737. I'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif Neuadd Bodfach, hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i Einion Efell etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad Madog ap Maredydd, Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen fwnt a beili ('Tomen yr Allt') gael ei ddymchwel yn 1256.

Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel Ffrengig, Pierre Augeraud, i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau â merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn Badajoz, Sbaen yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas.[7] Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna lle safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y Légion d'Honneur gan Napoleon ei hun. Gyda sêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.

Pobl o Lanfyllin

golygu
  • Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) (1819-1887). Bardd ac eisteddfodwr.
  • O. V. S. Bulleid (1882– 251970). Treuliodd y peiriannydd rheilffordd ran o'i blentyndod yn y dref.
  • Ann Griffiths, Dolwar Fach; yma yn Llanfyllin y cafodd Ann ei throedigaeth grefyddol.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfyllin (pob oed) (1,532)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfyllin) (505)
  
34.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfyllin) (635)
  
41.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfyllin) (244)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Eglwys Sant Myllin

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. 2.0 2.1 "Llanfyllin". The National Gazetteer. 1868. Cyrchwyd 2012-02-11.
  3. Roman Britain. "Mediomanum?" at Roman Britain[dolen marw] . 2010.
  4. Gwefan Coflein[dolen marw]; adalwyd 16 Ionawr 2015
  5. http://www.mathrafal.org/parishes/myllin.htm Archifwyd 2015-03-21 yn y Peiriant Wayback. mathrafal.org; gwefan yr Eglwys leol
  6. Cofnodion Archifdy Cyngor Sir Powys; Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Ionawr 2015
  7. www.secretdiner.co.uk; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. Ffeil Word; adalwyd 16 Ionawr 2015
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.