Yr Amgueddfa Brydeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:British Museum from NE 2.JPG|bawd|Adeilad yr Amgueddfa Brydeinig yn Bloomsbury, Llundain]]
[[Delwedd:British Museum gold thing 501594 fh000035.jpg|bawd|Un o'r trysorau yn yr Amgueddfa Brydeinig: [[Clogyn aur Yr Wyddgrug]]]]
 
Y mae'r '''Amgueddfa Brydeinig''' yn [[Llundain]] yn gartref i dros 13 miliwn o arteffactau o ddiwylliant a hanes dynol, ac felly yn un o'r casgliadau mwyaf sylweddol o'i bath ledled y byd. Sefydlwyd hi gan ddeddf Seneddol ym [[1753]], a chasgliad yn perthyn i'r meddyg Syr [[Hans Sloane]] (a fu farw y flwyddyn honno) a ffurfiodd gnewyllyn yr amgueddfa wreiddiol.
 
Lleolir yr amgueddfa ar hen safle plasdy'r teulu Montagu, mewn adeilad a gynlluniwyd yn yr arddull Roegaidd gan Syr Robert Smirke. Ychwanegodd ei frawd iau, Sydney Smirke, y llyfrgell crwn enwog a saif yng nghwrt canolog yr adeilad. Gorchuddiwyd y cwrt hwnnw â tho gwydr gan yr Arglwydd [[Norman Foster]] yn 2000.
 
Yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] er mwyn diogelu rhai o'r arteffactau, fe'u cymerwyd i'r [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], [[Underground Llundain|Gorsaf Reilffordd Holborn]], Llundain a phlasty yn [[Malvern]] er mwyn eu gwarchod yn ddiogel. Ceir yn yr Amgueddfa nifer o drysorau o Gymru gan gynnwys [[Clogyn aur Yr Wyddgrug]]. Yma hefyd y cedwir marmorau Elgin a [[Carreg Rosetta|Charreg Rosetta]].<ref>''Wondrous Curiosities – Ancient Egypt at the British Museum'', tt. 66–72 (Stephanie Moser, 2006, ISBN 0-226-54209-2)</ref>
 
Yn 2014 ymwelodd 6,701,043 o bobl â'r Amgueddfa.<ref name=Guardian>{{cite web|author=Mark Brown, arts correspondent |url=http://www.theguardian.com/culture/2014/jan/14/british-museum-record-visitor-numbers |title=The British Museum celebrates 255 years with record visitor numbers |publisher=The Guardian |date= |accessdate=15 January 2014}}</ref>
 
 
 
{{DEFAULTSORT:Amgueddfa Brydeinig}}