Gelatin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q179254
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gelatine.png|bawd|Dalennau gelatin]]
Sylwedd a ddaw o [[protin|brotin]] anifeiliaid yw '''gelatin''',<ref name=GyA/> '''jelatîn'''<ref>{{dyf GPC |gair=jelatîn |dyddiadcyrchiad=9 Mehefin 2015 }}</ref> neu '''gludai'''.<ref name=GyA>''[[Geiriadur yr Academi]]'', [gelatine].</ref> Defnyddir yn y gegin ac mewn diwydiant i ffurfio [[gel]]iau. Ceir gelatin drwy wresogi [[colagen]], a ddaw o groen, [[meinwe gyswllt]] mewn [[cig]], ac esgyrn yn enwedig o anifeiliaid ifainc. Fe'i echdynnir gan ddefnyddio dŵr poeth ac [[asid]]au neu [[alcali|alcalïau]]. Mae'n dryloyw a bron yn ddi-liw, ac fe'i werthir ar ffurf sych fel powdwr neu ddalennau tenau.<ref name=Davidson/> Bwyd protin pur sy'n hawdd ei [[treulio|dreulio]] yw gelatin, ac o ran ei faeth mae'n brotin anghyflawn, yn brin o rai [[asid amino|asidau amino]].<ref name=EB>{{dyf gwe |iaith=enBritannica |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/227922/gelatin |teitl=gelatin (animal protein) |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=9 HydrefMehefin 20132015 }}</ref>
 
Mae gronynnau gelatin yn [[hydroffilig]] a chanddynt strwythur hir, edafaidd, ac mae'r priodweddau arbennig hyn yn ei alluogi i drawsnewid cyfaint mawr o hylif yn sylwedd lled-solet neu gel. Os ychwanegir hylif i gelatin, bydd y gelatin yn chwyddo wrth amsugno'r dŵr. Os gwresogir y cymysgedd, mae'r gronynnau chwyddedig yn toddi wrth i'r hylif [[ymdoddi]] a cheir cymysgedd a elwir yn "sol" (system [[coloid|goloidaidd]] hylifol). Mae'r sol yn cynnwys digon o egni i'r gronynnau symud yn rhydd. Wrth oeri, mae'r gronynnau'n colli egni ac yn ffurfio rhwyll sy'n dal yr hylif yn gemegol drwy [[bond cemegol|fondiau]] ar eu harwyneb ac yn ffisegol drwy'r rhwydwaith tri dimensiwn. Hon yw'r ffurf ludiog a solet a elwir yn gel.<ref name=Davidson/> Mae'n bosib gwrthwneud y cyflwr gel yn sol ar dymheredd uchel, a gellir newid y sol yn ôl yn gel drwy ei oeri. Mae'r amser a gymerir i'r gelatin geulo, ac ansawdd y cynnyrch gorffenedig, yn dibynnu ar grynodiad y protin a chynhwysion eraill megis [[siwgr]], ac ar y tymheredd.<ref name=EB/>
 
== Coginiaeth ==
Yn y gegin, cymysgir gelatin gydag hylifau a [[cyflasyn|chyflasynnau]] i geulo [[asbig]] a [[terîn|therinau]] ar gyfer prydau sawrus, neu i wneud [[pwdin]]au a [[melysfwyd]]ydd megis [[jeli]], ''[[panna cotta]]'', [[melysion jeli]], a [[teisen gaws|theisen gaws]]. Mae masnachwyr yn ei ddefnyddio fel [[emylsydd]] ac i sefydlogi [[hufen iâ]], [[malws melys]], a chymysgeddau o [[olew]] a [[braster]]au gyda dŵr. Os caiff cymysgedd o gelatin a dŵr ei chwipio tra'n ludiog ond cyn iddo geulo, bydd y gelatin yn ddigon ystwyth i ddal swigoed aer gan greu ewyn neu sbwng, er enghraifft ''[[mousse]]''. Gellir oeri'r cymysgedd hwn i greu hufen iâ, a chreir ansawdd lefn wrth i'r gelatin atal ffurfiad crisialau mawr o [[rhew|rew]].<ref name=Davidson>Davidson, Alan. ''The Oxford Companion to Food'' (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 334.</ref>
 
Ni ddylir cymysgu gelatin gyda [[pîn-afal|phîn-afal]] ffres, gan fod y ffrwyth hon yn cynnwys [[ensym]] sy'n atal y gelatin rhag ceulo; gellir defnyddio pîn-afal tun. Gan nad yw gelatin yn addas ar gyfer [[llysieuaeth|llysieuwyr]], gellir defnyddio [[agar-agar]] neu [[gwymon bwyta|wymon bwyta]] (mos Iwerddon) yn lle.<ref>Good Housekeeping ''Food Encyclopedia'' (Llundain, Collins & Brown, 2009), t. 379.</ref> Sylwer bod nifer o jelïau ffrwyth yn defnyddio'r sylwedd naturiol [[pectin]] ac nid gelatin i geulo.<ref name=EB/>
 
== Fferylliaeth ==
[[Delwedd:Kapsel beredningsform.jpg|bawd|150px|Pils a wneir o gelatin.]]
Defnyddir gelatin yn y [[diwydiant fferyllol]] i gynhyrchu pils a thabledi [[meddyginiaeth]]ol, [[colur]], [[eli|elïoedd]], [[losin peswch]], a chynnyrch [[plasma]].<ref name=EB/>
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 10 ⟶ 21:
[[Categori:Protinau]]
[[Categori:Tewychyddion]]
{{eginyn cemeg}}